Dosbarthiadau Saesneg
Mae Grŵp Menai Llandrillo yn cynnig dosbarthiadau ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) yn Llandrillo-yn-Rhos, Abergele a Bangor.
Mae dosbarthiadau ar gael ar bob lefel, ac yn llawn amser neu’n rhan-amser.
Cynhelir asesiadau a chyfweliadau yn Llandrillo-yn-Rhos am 1pm ar ddydd Llun ac ym Mangor bob dydd Mawrth am 1pm.
I archebu sesiwn cysylltwch ag Eleri Bean ar (01248) 383347 / est 3609 neu e-bost: bean1e@gllm.ac.uk