Taliad Cynhaliaeth
Mae gan westeion hawl i gael taliad cyrraedd o £200 fel incwm brys ar gyfer unrhyw hanfodion sydd eu hangen. Mae hwn yn daliad unigol sydd ar gael i blant ac oedolion. Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cyflwyno’r taliad hwn.
Ar ôl i chi gael eich cymeradwyo fel noddwr ac mae eich gwesteion wedi cyrraedd, bydd mwy o wybodaeth a ffurflen gais ar gyfer y taliad yn y llythyr a gawsoch gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Sut wyf yn agor cyfrif banc?
Mae’n bwysig i bobl sy’n ceisio lloches o Wcráin agor cyfrif banc cyn gynted â phosib. Mae amrywiaeth o fanciau ar gael, gan gynnwys darparwyr ar-lein yn unig.
I agor cyfrif banc, bydd angen i chi ddangos pwy ydych chi, megis pasbort neu drwydded yrru neu gerdyn adnabod cydnabyddedig yn ogystal â phrawf o’ch cyfeiriad.
Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â sut i agor cyfrif banc ar gael yn: www.sanctuary.gov.wales/ukraine/money
Budd-daliadau
Gall pobl sy’n cyrraedd y DU o Wcráin gael mynediad at Gredyd Cynhwysol a chymorth swyddi yn syth.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: Datganiad i'r Wasg Adran Gwaith a Phensiynau