Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Brexit Gadael yr Undeb Ewropeaidd (Brexit)

Gadael yr Undeb Ewropeaidd (Brexit)


Summary (optional)
Mae’r dudalen hon yn darparu dolenni defnyddiol i ddod o hyd i wybodaeth, offer a chymorth.
start content

Canllawiau ar gyfer unigolion a theuluoedd

Mae’r llywodraeth wedi creu casgliad o ganllawiau ar Brexit ar gyfer unigolion a theuluoedd sy’n cynnwys cyngor i ddinasyddion y DU a’r UE ar deithio, gweithio ac astudio yn y DU a’r UE.

Mae hyn yn cynnwys canllawiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Adran Drafnidiaeth ar y camau mae angen i bobl eu cymryd wrth deithio i Ewrop ar gyfer gwaith.

Canllawiau: Brexit: canllawiau i unigolion a theuluoedd - GOV.UK (www.gov.uk)

https://www.gov.uk/visit-eu-switzerland-norway-iceland-liechtenstein/business-travel-extra-requirements

Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Y dyddiad cau ar gyfer mwyafrif o bobl i wneud cais ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE oedd 30 Mehefin 2021.

Os ydych chi neu eich teulu o’r UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, gallwch wneud cais os oeddech chi neu aelod o’ch teulu yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020. Rhaid i chi naill ai:

  • fodloni un o’r meini prawf ar gyfer dyddiad cau hwyrach i wneud cais; neu
  • gael ‘sail resymol’ am beidio â gwneud cais erbyn 30 Mehefin 2021


Mae rhagor o wybodaeth ar Apply to the EU Settlement Scheme (settled and pre-settled status) - GOV.UK (www.gov.uk)

Gwybodaeth i fusnesau

Bydd newidiadau’n effeithio ar fusnesau ar draws y DU. Beth bynnag fo maint eich busnes neu sector, bydd angen i chi gydymffurfio â'r rheolau newydd hyn o 1 Ionawr 2021.

I ganfod beth i’w wneud:


Gwefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig: Pecyn adnoddau i gyflogwyr  sy'n rhoi'r adnoddau a'r wybodaeth i gyflogwyr i helpu staff sy'n Ddinasyddion yr UE a'u teuluoedd i wneud cais am y Cynllun Preswylio'n Sefydlog.

Cysylltiadau Defnyddiol:

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content