Cymorth Ariannol i Fanciau Bwyd Sir Conwy
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi rhoi dros £80,000 i helpu i lenwi silffoedd mewn banciau bwyd cydnabyddedig ar draws y Sir yn barod at y Nadolig.
Derbyniodd y Cyngor gyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi tlodi bwyd yn ystod yr argyfwng costau byw.
Mae’r cyllid yn galluogi’r banciau bwyd i barhau i baratoi parseli bwyd i drigolion y sir sy’n gymwys am gymorth banc bwyd. Mae’r silffoedd wedi’u hail-lenwi ym manciau bwyd Llanfairfechan, Conwy, Llandudno, Bae Colwyn ac Abergele yn sgil y gefnogaeth ariannol hon.
Dyrannwyd y cyllid yn ôl faint o fwyd y mae pob banc bwyd yn ei ddosbarthu.
Dywedodd Cyng. Charlie McCoubrey, Arweinydd y Cyngor: “Yn amlwg mae hi’n amser heriol iawn i bawb, ond mae hi’n fwy heriol i’n preswylwyr mwyaf diamddiffyn. Bydd y gefnogaeth yma’n helpu rhai sydd â’r angen mwyaf yn uniongyrchol ac rydw i’n gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth.
“Mae yna ysbryd cymunedol gwych o amgylch y sir ac rydw i’n gofyn i bawb gadw llygad am ei gilydd a gwirio ar gymdogion a phobl ddiamddiffyn yn ein trefi a phentrefi.
“Waeth pa mor fach, gall pob gweithred gadarnhaol a charedig wneud gwahaniaeth gwirioneddol.”
Mae gwybodaeth am Fanciau Bwyd cymunedol, cymorth a chyngor ar gael yn: www.conwy.gov.uk/costau-byw
Wedi ei bostio ar 14/03/2023