Gwahoddiad i drigolion rannu eu barn ar lwybr cerdded a beicio newydd arfaethedig
Mae gwahoddiad i drigolion gael dweud eu dweud ar gynnig am welliannau i’r rhwydwaith cerdded, olwyno a beicio rhwng Bae Cinmel a’r Rhyl.
Mae Cyngor Sir Ddinbych, ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn gweithio gyda Sustrans Cymru ar hyn o bryd i wneud teithio llesol – yr enw a roddir ar siwrneiau sydd â phwrpas – yn yr ardal yn fwy hygyrch, yn fwy pleserus ac yn fwy diogel i’r gymuned gyfan, gan annog gwneud mwy o siwrneiau ar droed neu ar feic yn hytrach nag yn y car.
Mae llwybr di-draffig newydd yn cael ei gynllunio: Llwybr cyd-ddefnyddio a fydd yn cynnig dewis mwy uniongyrchol ar gyfer teithio rhwng cymunedau Bae Cinmel a’r Rhyl. Bydd y llwybr yn 1.5km o hyd, yn ymestyn o ardal breswyl Owain Glyndŵr drwy’r caeau i fyny at y bont rheilffordd, gan groesi Afon Clwyd a mynd heibio’r Marine Lake.
Mae Sustrans, ar ran y cyngor, nawr yn gofyn am adborth gan y bobl sy’n byw, gweithio a theithio yn yr ardal a allai elwa o’r cynigion, i weld beth hoffent ei weld ar hyd y llwybrau newydd yn y dyfodol.
Gall trigolion rannu eu syniadau a’u hadborth drwy fynd ar wefan y prosiect a gynhelir gan Sustrans: https://sustrans.info/TeithioLlesolPontAfonClwyd
Bydd yr arolwg ar gael ar-lein tan 15 Ionawr 2023.
Gellir cael fersiynau papur o’r ymgynghoriad hwn drwy gysylltu â Sustrans Cymru drwy ebost: Rhyl@sustrans.org.uk neu drwy ysgrifennu atynt: Sustrans Cymru, Un Rhodfa’r Gamlas, Heol Dumballs, CF10 5BF Caerdydd.
Wedi ei bostio ar 20/12/2022