Rhew ac Eira 09/03/23 - Sefyllfa Bresennol 18:30hrs
Graeanu
Yn dilyn y graeanu pnawn ‘ma, byddwn yn graeanu’r holl ffyrdd blaenoriaeth eto 1am a 5am fory. Mae rhagor o eira ar ei ffordd dros nos – rydym yn monitro’r sefyllfa a bydd y criwiau allan cyhyd a bo angen i gadw’r ffyrdd yn glir.
Ffyrdd ar gau oherwydd eira
• B5113 Oerfa, Bro Garmon (Nebo i’r A548)
• A543 o Bentrefoelas i’r Sportman’s Arms (cyffordd Brenig)
Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff
Os mai dydd Iau yw eich diwrnod casglu ond na chafodd eich cynwysyddion ailgylchu neu eich bin du eu casglu heddiw, gadewch nhw allan.
Fe wnawn ein gorau i’w casglu nhw ddydd Gwener (yn dibynnu ar y tywydd).
Os methwyd eich casgliad clytiau, fe wnawn ddod i gasglu’r bagiau ddydd Llun, 13 Mawrth.
Rhybudd oren gan y Swyddfa Dywydd am eira a rhew: UK weather warnings - Met Office
Mae’r holl wasanaethau yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn fanwl.
Wedi ei bostio ar 09/03/2023