HYSBYSIR DRWY HYN fod yr Archwilydd Allanol, yn unol â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, wedi ardystio bod Archwiliad Cyfrifon yr uchod ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020 wedi’i gwblhau.
Yn unol â darpariaethau Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, mae’r Datganiad Cyfrifon ar gael i'w archwilio ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy o dan “Cyngor” ac maent i'w gweld hefyd ym Modlondeb, Conwy, o ddydd Llun tan ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc), rhwng 9.00 a.m. a 4.00 p.m. O ganlyniad i gyfyngiadau sy'n ymwneud â phandemig COVID-19, mae'r Cyngor yn gofyn i benodiad gael ei wneud gyntaf trwy wneud cais i'r Cyfarwyddwr Strategol (Cyllid ac Effeithlonrwydd), Bodlondeb, Conwy.
Andrew Kirkham
Cyfarwyddwr Strategol (Cyllid ac Effeithlonrwydd) FCPFA
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Bodlondeb
Conwy
LL32 8DU
Amanda Hughes
Cyfarwyddwr Strategol – Cyllid ac Adnoddau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Conwy, LL30 9GN
Dyddiedig 6 Hydref 2020