A wnaethoch chi fethu ein sioe deithiol ddiwedd mis Mawrth?
Peidiwch â phoeni os gwnaethoch chi, gan ein bod yn cymryd atgyfeiriadau ar gyfer mis Ebrill rŵan, felly os ydych yn cael trafferth dod o hyd i waith cysylltwch â ni a bydd un o'n tîm o fentoriaid ac ymgynghorwyr yn helpu!
Dydych chi ddim ar ben eich hun – gallwn eich helpu i ysgrifennu CV, llenwi ffurflenni cais, yn ogystal â darparu cefnogaeth fwy dwys i unrhyw un sy’n teimlo fod y broses o chwilio am waith yn ormod iddynt.
Rydym wedi helpu llawer o bobl ar draws Conwy i ddod o hyd i waith, ond peidiwch â derbyn ein gair ni’n unig. Dyma oedd gan y rhai a gymerodd ran i’w ddweud am ein rhaglen:
“Roedd y tîm o fentoriaid yn anhygoel, gwnaethant fy annog i fynd y tu hwnt i’r hyn roeddwn i’n credu y gallwn ei wneud ac ailadeiladu fy hyder ac maen nhw’n dal i fy helpu heddiw."
“Rydw i wedi dod yn hapusach ac yn fwy hyderus ac allblyg ac rydw i’n gallu gwneud ffrindiau a gweithio gyda phobl newydd ac amrywiol. Y gallu i fod â ffydd yn fy ngallu fy hun a’r sgiliau rydw i’n gwybod sydd gen i ac mae gen i bellach fywyd i’w ddilyn a dechrau fy mhrentisiaeth.”
“Byddwn yn argymell Cymunedau am Waith a Mwy heb feddwl ddwywaith. Maen nhw’n garedig ac yn barod i ddeall a byddan nhw yn eich helpu gyda phob cam o'r broses o chwilio am waith, a byddan nhw’n dal i weithio gyda chi nes eich bod yn hyderus y gallwch ei wneud ar eich pen eich hun.”
“Rydw i wedi cael cymaint o gefnogaeth gan gynnwys help efo tocynnau bws, gan fod fy swydd bresennol yn daith 40 munud yno ac yn ôl. Rydw i hefyd wedi cael cefnogaeth o ran mynd am gyfweliad (a’r pethau allweddol i’w dweud yn y cyfweliad). Rhoddodd fy mentor eirda ardderchog i mi a chefnogaeth i greu CV da.”
“Byddwn i’n sicr yn argymell Cymunedau am Waith a Mwy i rywun arall gan eu bod yn eich helpu i gyrraedd ble rydych chi eisiau bod ac maen nhw wir yn malio amdanoch.”
Felly, os oes angen unrhyw gefnogaeth arnoch chi i ddod o hyd i waith, neu os ydych chi mewn gwaith ar hyn o bryd ond wedi eich tangyflogi, neu hyd yn oed yn wynebu diswyddiad, cysylltwch â ni i gael y cymorth a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi. Gallwch gyfeirio eich hun drwy ein ffurflen ar-lein, neu gallwch ein ffonio i ni ar 01492 575578/ 07711 567191 neu e-bost cymunedauamwaith@conwy.gov.uk.