Mae Tîm Iechyd Cyhoeddus i’r Bwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr wedi buddsoddi mewn trwydded amlddefnyddiwr ar gyfer 4 cwrs ar-lein o ansawdd, sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth gan Solihull Approach (sefydliad cenedlaethol y GIG).
- Deall eich beichiogrwydd, yr esgor, yr enedigaeth a’ch babi
- Deall eich babi
- Deall eich plentyn
- Deall ymennydd eich glasoed
Mae’r cyrsiau hyn ar gyfer HOLL ddarpar rieni, rhieni, neiniau a theidiau neu ofalwyr unrhyw blant o’r cyfnod cyn-geni hyd at 18 mlwydd oed. Mae’r cwrs yn berthnasol i rieni pob plentyn, gan gynnwys y rhai ag anghenion arbennig, awtistiaeth, ADHD ac ati.
Byddem yn eich annog i fanteisio ar y cyfle hwn sydd â therfyn amser. Mae’r cyrsiau AM DDIM i bob preswylydd Gogledd Cymru gyda’r codau mynediad isod.
Mae’r drwydded yn ddilys tan 30 Tachwedd 2022 felly manteisiwch ar yr adnodd ardderchog tra gallwch. Unwaith y byddwch wedi cael mynediad at y cyrsiau trwy ddefnyddio’r cod, bydd gennych fynediad nad yw’n dod i ben.
Ewch i www.inourplace.co.uk a mewnbynnwch y cod mynediad: NWSOL
Gofynnir i chi greu cyfrif er mwyn i chi allu parhau â’r cwrs o’r pwynt y gwnaethoch ei adael. Yn ogystal, gofynnir i chi wirio bod gennych hawl cyfreithiol i ddefnyddio’r cod mynediad drwy nodi eich cod post.
Bydd yr wybodaeth personol a ddarperir gennych yn aros yn breifat. Bydd eich ymatebion i’r cwestiynau monitro yn ddienw. Ni fyddwch yn derbyn unrhyw e-byst marchnata. Byddwch yn derbyn e-byst o longyfarch pan fyddwch yn cwblhau modiwl.
Efallai y bydd Solihull Approach yn eich e-bostio o bryd i’w gilydd i roi gwybod i chi am ddiweddariadau i’r cwrs. Rydym yn croesawu eich adborth.
Am ragor o wybodaeth am y cwrs, ewch i www.inourplace.co.uk
Am ymholiadau technegol, e-bostiwch solihull.approach@heartofengland.nhs.uk
neu ffoniwch 0121 296 4448 o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am–5pm
Am unrhyw cwestiynau lleol cystyllwch yn Cymraeg neu Saesneg i nwsol@wales.nhs.uk
Gwybodaeth i Rieni a Gofalwyr (PDF)
Tystebau Rhieni (PDF)