Ydych chi'n ofalwr? Ydych chi'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth?
Byddem wrth ein bodd yn gwybod mwy am sut olwg sydd ar ddiwrnod yn eich bywyd.
Ym mis Medi, bydd Mesur y Mynydd yn cynnal ei ail Reithgor Dinasyddion fel digwyddiad rhithwir. Bydd pymtheg aelod o'r cyhoedd (ein Rheithwyr) yn dod ynghyd i archwilio agwedd ar ofal cymdeithasol. Fel rhan o'r wybodaeth a gyflwynir, hoffem ddangos fideos a wnaethoch chi, am ddiwrnod yn eich bywyd.
Gellir gwneud y fideos ar eich ffôn a gallant gwmpasu unrhyw agweddau ar eich diwrnod yr hoffech eu rhannu. Fodd bynnag, byddai'n addysgiadol iawn i'r Rheithwyr wybod am bethau fel cymhorthion ac offer rydych chi'n eu defnyddio; pobl rydych chi'n rhyngweithio â nhw; gwneud apwyntiadau; neu fynd allan.
I ddarganfod mwy am y fideos hyn a sut y gallwch chi gymryd rhan yn y Rheithgor Dinasyddion ewch i www.mym.cymru/rheithgor-dinasyddion-2020