Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bellach wedi gwneud taliadau £150 Cynllun Cymorth Cost Byw Llywodraeth Cymru i breswylwyr sy’n talu eu Treth y Cyngor drwy ddebyd uniongyrchol.
Os nad ydych chi’n talu Treth y Cyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol, ond eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun yn ôl y meini prawf, fe gewch chi lythyr yn eich awdurdodi i gasglu’r taliad o’ch Swyddfa Bost leol. Rydym yn gweithio ar y cynllun hwn ar hyn o bryd ac yn disgwyl i daliadau ddechrau cael eu gwneud ym mis Gorffennaf 2022.
Mae’r taliad yn cael ei wneud i breswylwyr gydag eiddo ym mandiau Treth Cyngor A-D ac hefyd i’r rheiny a oedd yn cael cymorth drwy’r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar 15 Chwefror 2022, beth bynnag yw band prisio eu heiddo.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Taliadau Cymorth Costau Byw - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Os yw taliad yn cael ei wneud a gwybodaeth yn ymddangos y ddiweddarach nad yw’r derbynnydd yn gymwys am y taliad hwnnw, gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru, ofyn am y taliad llawn yn ôl.