Rydym yn defnyddio cwcis i wneud y safle hwn yn symlach. Drwy bori trwy ein tudalennau rydych yn derbyn ein defnydd o gwcis. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen preifatrwydd a chwcis.
Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Olly Murs


Summary (optional)
start content

Olly Murs Yn Cyhoeddi Taith Haf wedi’i Haildrefnu - 11 Sioe Eleni a 13 Sioe'r Flwyddyn Nesaf

Bydd Olly Murs yn perfformio yn Stadiwm Zipworld ym Mae Colwyn ar 13 Awst y flwyddyn nesaf fel rhan o daith gyda 25 dyddiad yn y DU (tocynnau ar werth am 9am ar 9 Hydref ar ticketmaster.co.uk ac ollymurs.com).

Olly Murs

Mae Olly Murs wedi cadarnhau ei gynlluniau i gynnal sioeau yn 2021 a haf 2022. Bydd tocynnau a brynwyd eisoes yn dal i fod yn ddilys ar gyfer y dyddiadau newydd. Nod y daith hon fydd rhoi gwên ar wynebau pawb wrth iddo berfformio ei ganeuon mwyaf poblogaidd, gan gynnwys caneuon oddi ar ei albwm platinwm triphlyg, ‘Never Been Better’.

“Rydw i mor hapus ‘mod i’n cael mynd ar daith ledled y DU yn ystod yr haf, ar ôl y flwyddyn rydyn ni wedi’i chael!” meddai Olly. “Rydyn ni wedi gweithio'n galed i gynnig cymaint o sioeau ag y gallwn ni eleni a’r flwyddyn nesaf, ac rydw i'n edrych ymlaen at gael dod ag ychydig o hwyl i’r llwyfan i godi calonnau fy nilynwyr. Meddwl am gael perfformio gyda fy mand, gweithio gyda fy nghriw a gweld fy nilynwyr sy’n fy nghadw i i fynd drwy'r cyfnod clo, felly mae’n hwyr glas i’r haf gyrraedd!”

Bu 2020 yn flwyddyn brysur i Olly: bu’n gapten ar dîm Lloegr yn gêm Soccer Aid y llynedd, a chadwodd ei goron fel beirniad buddugol trydedd gyfres The Voice gyda'r gantores Blessing Chitapa. Mae i'w weld ar hyn o bryd ar ein sgrin bob nos Sadwrn ar gyfres newydd The Voice, a'i nod yw ennill y gamp lawn.

Yn ystod y cyfnod clo, llwyddodd hefyd i drawsnewid ei gorff, gan weithio’n agos gyda’r hyfforddwr personol Rob Solly, a rhannu ei arferion ffitrwydd yn gyfyngedig gyda Men’s Health.

Bydd Olly Murs yn chwarae’r sioeau canlynol yn 2021. Mae tocynnau nawr ar werth YMA.

Dyddiadau 2021:

Gorffennaf

Sadwrn 17 - Cae Rasio Haydock Park, St Helens (DYDDIAD GWREIDDIOL)
Iau 29 - Bedford Park, Bedford (DYDDIAD GWREIDDIOL)
Gwener 30 - Cae Rasio Newmarket, Newmarket (DYDDIAD GWREIDDIOL)

Awst

Sadwrn 14 - Cae Rasio Newbury, Newbury (DYDDIAD GWREIDDIOL)
Sul 15 - Parc Singleton, Abertawe (DYDDIAD NEWYDD)
Gwener 27 - Theatr Awyr Agored Scarborough, Scarborough (DYDDIAD NEWYDD)
Sadwrn 28 - Arena Darlington, Darlington (DYDDIAD GWREIDDIOL)
Sul 29 - Castle Park, Colchester (DYDDIAD GWREIDDIOL)

Medi

Sul 5 - Arena QEII, Telford (DYDDIAD NEWYDD)
Sadwrn 18  - The Hop Farm, Kent (DYDDIAD NEWYDD)

Dyddiad i’w gadarnhau

Carlisle Bitts Park, Cumbria (DYDDIAD NEWYDD I’W GADARNHAU)

 

Dyddiadau wedi’u haildrefnu yn 2022:

Mehefin

Gwener 10 - Live At Botanic Gardens, Belfast  
Sadwrn 11 - Live At The Marquee, Cork
Gwener 17 - Royal Hospital Chelsea, Llundain

Gorffennaf

Gwener 1 - Live In The Wyldes, Cernyw
Gwener 8 - Castell Caeredin, Caeredin
Sadwrn 9 - Harewood House, Leeds
Mawrth 12 - Blickling Estate, Norwich
Mercher 13 - New Milton, Chewton Glen
Iau 14 - Bath Royal Crescent, Caerfaddon
Sadwrn 16 - Castell Warwick, Warwick
Iau 21 - Castell Caerdydd, Caerdydd
Mercher 27 - Castell Powderham, Caerwysg

Awst

Gwener 12 - Stadiwm Zip World, Bae Colwyn

 

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y wefan swyddogol:

www.ollymurs.com

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content