Cymal Pedwar – Aberaeron i’r Gogarth
Dydd Mercher 8 Medi 2021
Yn ymweld â Llandudno ar gyfer diweddglo cymal Taith Prydain OVO Energy, Dydd Mercher, 8 Medi?
Ystyriwch y wybodaeth ganlynol wrth gynllunio eich siwrnai, cyn diwrnod y rasio.
Darllenwch hefyd ganllawiau Llywodraeth Cymru: Cyfyngiadau o 7 Awst 2021: Lefel rhybudd 0 a chanllawiau i’r cyhoedd Lefel rhybudd 0: canllawiau i'r cyhoedd
Hygyrchedd
Rheilffordd:
Gorsaf Llandudno yw’r orsaf agosaf. Mae gwasanaethau trên uniongyrchol yn rhedeg i’n cyrchfannau arfordirol poblogaidd yng ngogledd Cymru, gan gynnwys Llandudno o’r rhan fwyaf o rannu o Brydain. Pan fyddwch yn dod oddi ar y trên yn Llandudno, gallwch gerdded i ganol y dref, a byddwch milltir a hanner i'r llinell derfyn ar y Gogarth.
Ewch i wefan National Rail
Dewch o hyd i ragor ar dudalennau Cyrraedd Yma gwefan Dewch i Gonwy:
Cyrraedd - Dewch i Gonwy
Bws:
Mae sawl llwybr yn pasio drwy Llandudno. Gwiriwch Arriva.co.uk ar gyfer manylion.
Coets:
Mae National Express yn gweithredu gwasanaethau uniongyrchol o Lundain, Manceinion a Lerpwl, gyda chysylltiadau o’r mwyafrif o drefi yn y DU.
Tram:
Gellir cael mynediad i ddiweddglo’r cymal ar Dram Llandudno, sy’n rhedeg o waelod y Gogarth i’r copa.
Mae modd defnyddio’r ceir cebl i'ch cymryd o un ochr y pentir i’r llall.
Ffordd:
Mae nifer o feysydd parcio cyhoeddus yn Llandudno. Gellir canfod manylion yma - Meysydd Parcio - Dewch i Gonwy
Cynghorir eich bod yn parcio yn nhref Llandudno ac yn cerdded i linell derfyn y cymal, neu’n mynd ar dram i’r copa. Mae maes parcio i wylwyr ar y Gogarth, gallwch ganfod y lleoliad drwy ddilyn yr arwyddion.
Mae cyfyngiad ar nifer y lleoedd parcio ac maent ar gau 1pm - 5pm.
Glynwch ar y llwybrau troed a farciwyd gan fod hon yn ardal SoDdGA.
Cau Ffyrdd:
Gwaharddiad parcio:
Dydd Mawrth, 7 Medi:
- Ffordd Tŷ Gwyn, Llandudno o 1900
Dydd Mercher, 8 Medi:
Gwaharddiad parcio o [06:00 - 17:00]
- Ffordd yr Abaty, Llandudno
- Stryd Tudno, Llandudno
- Church Walks, Llandudno, o’i chyffordd gyda Stryd Tudno, Llandudno i Rodfa'r Gogledd, Llandudno
- Rhodfa'r Gogledd, Llandudno o’i chyffordd gyda Rhodfa’r Gogledd i Ffordd y Fach
- Ffordd Y Fach, Llandudno
Cau Ffordd:
- Rhodfa'r Gorllewin, Llandudno, o’i chyffordd gyda A546 i’w chyffordd gyda Ffordd yr Abaty, Llandudno 1000-1700
- Ffordd Sant Tudno 0500-1700
- Ffordd Tŷ Gwyn 0500 - 2000
- Ffordd Tŷ Gwyn 0500 - 2000
LLEOEDD PARCIO TIMAU:
Bydd bysiau teithio'r timau wedi'u parcio ar Rhodfa'r Gorllewin, Llandudno.
AMWYNDERAU LLEOL:
Mae pier (yr hiraf yng Nghymru), arcêd difyrrwch, reid ar fulod ar y traeth a strydoedd siopa gyda chanopi tu ôl i’r promenâd. Mae Llandudno yn glasur o’i fath. Mae map Trywydd Alice a chanllaw fel cofrodd. Yn ogystal â nifer o fannau bwyd a diod lleol ledled canol tref Llandudno. Bydd cloddfeydd Copr y Gogarth ar agor rhwng 9.30am a 4.30pm (mae'n rhaid cerdded yno) a bydd car cebl Llandudno yn weithredol hefyd!
Mapiau a Theithlyfrau i'w Lawrlwytho - Dewch i Gonwy
Toiledau yn Sir Conwy - Dewch i Gonwy
Bwyd a Diod - Dewch i Gonwy
Llety yn Sir Conwy - Dewch i Gonwy
Beth sydd 'Mlaen - Dewch i Gonwy