
Mae’r ŵyl wedi croesawu corau o bob cwr o'r byd i’r dathliad gwych hwn o gerddoriaeth. Wedi ei lleoli yn Venue Cymru, mae Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru yn cynnwys amrywiaeth o ddosbarthiadau cystadlu dros y penwythnos.
Mae’r gystadleuaeth, sydd wedi’i threfnu gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, wedi mynd o nerth i nerth ac erbyn hyn mae hi'n ddathliad o gerddoriaeth. Ystyrir hon yn un o wyliau corawl gorau Cymru ac mae’n enwog am ei hawyrgylch gyfeillgar. Dyma benwythnos sydd wrth fodd pob un sy'n canu mewn côr.
Tocynnau Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru ar werth nawr
Bydd Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru yn dychwelyd i Venue Cymru 9-10 Tachwedd 2019 am benwythnos llawn dop, sydd yn siŵr o fod at ddant y rheiny ohonoch chi sydd wrth eich boddau â chanu corawl.
Mae’r ŵyl wedi denu llawer o ddiddordeb dros y blynyddoedd efo corau yn teithio o bell ac agos.
Bydd y penwythnos yn dechrau ar y nos Wener gyda chôr lleol, Côr Meibion Maelgwn yn diddanu pawb gydag amrywiaeth o genres cerddorol yn Gymraeg a Saesneg. Ynghyd â soprano Opera Genedlaethol Cymru, Fflur Wyn, sy’n cael ei hadnabod bellach fel un o brif gantorion y wlad ar lwyfan operatig a chyngerdd. Yn sicr, bydd awyrgylch gwych ar y noson. Mynnwch eich tocynnau rŵan am £17 i oedolion a £8.50 i blant.
Bydd y cystadlu yn dechrau am 10am ddydd Sadwrn, gyda’r Corau Meibion, Corau Ieuenctid, ac Ychydig o Hwyl yn camu i’r llwyfan. Wedi hyn, cyfrifoldeb y beirniaid, David King, Nia Morgan a Trevor Hughes fydd penderfynu pwy sy’n haeddu cipio’r wobr gyntaf.
Bydd Cyngerdd Dathlu’r Ŵyl yn cael ei gynnal nos Sadwrn am 8pm, a fydd yn cynnwys amrywiaeth o gorau yn mwynhau eu hunain ar y llwyfan heb orfod poeni am lygaid barcud y beirniaid!
Ddydd Sul a thro’r Merched, ac arddull siop Barbwr fydd hi, yn ogystal â’r gystadleuaeth newydd sef Sioeau Cerdd, gyda’r cystadlu yn cychwyn am 11:15am. Diwrnod prysur arall o gystadlu gyda chorau wedi teithio o bob cornel o'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Mae’r tocynnau ar werth nawr, gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n methu’r penwythnos cerddorol gwych hwn!
Mae tocynnau diwrnod ar gael ar gyfer y ddau ddiwrnod o gystadlu am £16 i oedolion a £8 i blant, y dydd, gan gynnwys ffi archebu. Fodd bynnag, os mai dim ond un categori sy’n mynd â’ch bryd, mae tocynnau’n £8 fesul categori i oedolion ac £4 fesul categori i blant, gan gynnwys ffi archebu.
Mae tocynnau hefyd ar gael ar gyfer Cyngerdd Dathlu'r Ŵyl am £15 i oedolion ac £7.50 i blant, gan gynnwys ffi archebu.
Am docynnau gallwch ffonio’r swyddfa docynnau ar 01492 872000. Sylwch mai dim ond dros y ffôn neu o swyddfa docynnau Venue Cymru, Llandudno, y gellir cael gafael ar docynnau diwrnod.
I roi cynnig ar y gystadleuaeth ewch i www.northwaleschoralfestival.com/cymraeg Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o drefnu Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru, ac mae Sir Conwy’r amgylchedd iawn ar gyfer digwyddiadau gwych www.conwy.gov.uk/digwyddiadau