Mae'r Adran Ystadau a Rheoli Asedau yn delio gyda gwerthu a gosod eiddo diangen, sy'n gallu cynnwys cartrefi gofal, swyddfeydd, tir datblygu, cyfleoedd datblygu o fewn adeiladau'r Cyngor sydd wedi'u digomisiynu, tir amwynder neu erddi, tir pori a deiliadaethau amaethyddol.
Wrth i'r Cyngor edrych ei asedau, mae'n bosib na fydd angen pob un ohonynt a gall gael gwared â rhai drwy werthu rhydd-ddaliad (ar werth), neu eu gosod ar brydles (ar osod).
Nid yw'r Cyngor yn cadw rhestr bostio o ymgeiswyr sy'n chwilio am eiddo'r Cyngor sydd ar werth. Mae'n argymell bod y rhai sy'n awyddus i gaffael tir ac adeiladau yn edrych ar y wefan ac ar hysbysebion yn y wasg leol yn rheolaidd i weld beth sydd ar gael.
Eiddo sydd ar werth neu ar osod ar hyn o bryd:
- Tir ar werth ym Mhlot 6 Parc Menter Tre Morfa, Parc Caer Seion, Conwy, LL32
- Tir ar werth ym Mhlot 7 Parc Menter Tre Morfa, Parc Caer Seion, Conwy, LL32
- Stryd y Bont, Abergele, Conwy, LL22 – Prys Jones & Booth
- Swyddfa i’w phrydlesu yn Nghyfres o Ystafelloedd 12, 12A ac Uned 3, Canolfan Fusnes Conwy, Cyffordd Llandudno, LL31 9XX, LL31
- Eiddo manwerthu allan o’r dref i’w brydlesu yn Y Promenâd, LL29
- Eiddo manwerthu allan o’r dref i’w brydlesu yn Porth Eirias, LL29
- Tŷ pâr 3 ystafell wely ar werth – Gwytherin, Abergele, LL22
Cyfle Datblygu Masnachol Ar Gael – Plot 5, De Branwen, Ystad Ddiwydiannol Tir Llwyd Bae Cinmel
Datblygiad masnachol ar werth ar Ystad Ddiwydiannol Tir Llwyd, LL18