Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trwyddedau a Hawlenni Tân gwyllt a ffrwydron

Tân gwyllt a ffrwydron


Summary (optional)
Trwydded ar gyfer gwerthu a storio - Deddf Tân Gwyllt 2003 - Rheoliadau Ffrwydron 2014
start content

Bydd angen trwydded arnoch gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy os ydych yn gwerthu neu’n storio ffrwydron, gan gynnwys tân gwyllt yn sir Conwy.

Rhaid storio tân gwyllt a ffrwydron yn saff a diogel. Bydd angen trwydded arnoch gennym os ydych yn storio neu’n gwerthu tân gwyllt i ddangos eich bod yn unigolyn priodol i wneud hynny, a bydd archwiliadau’n cael eu cynnal o bryd i’w gilydd i sicrhau fod eich eiddo yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol.

Bydd y math o drwydded sydd ei hangen arnoch yn dibynnu ar ba bryd rydych yn bwriadu gwerthu neu storio tân gwyllt. Bydd trwyddedau safonol yn ofynnol os ydych chi’n gwerthu neu’n storio tân gwyllt neu ffrwydron yn ystod y tymhorau tân gwyllt arferol; fodd bynnag gallwch chi hefyd geisio am drwydded gydol y flwyddyn os ydych yn bwriadu masnachu tu allan i’r adegau hyn.

Efallai y byddwn yn gwrthod cais os ydym yn ystyried fod y safle storio’n anaddas ar sail diogelwch, neu os oes tystiolaeth i awgrymu nad yw’r ymgeisydd yn unigolyn priodol i storio tân gwyllt neu ffrwydron.

Ffrwydron sydd wedi eu cynnwys dan y drwydded

  • bwledi a chetris a phowdrau saethwyr
  • ffrwydron tanio
  • tân gwyllt (pyrotechneg)
  • powdr gwn
  • ffagl forol

Amodau

Rhaid i chi sicrhau eich bod yn deall, ac yn cydymffurfio gyda, y gofynion cyfreithiol ar gyfer storio tân gwyllt. Caiff y rhain eu hamlinellu yn Rheoliadau Ffrwydron 2014.

Nid oes angen trwydded arnoch i storio hyd at 5 cilogram o dân gwyllt neu ffrwydron.

Os ydych eisiau storio mwy na 2 dunnell (2000kg) o ffrwydron mewn un lleoliad yna bydd angen i chi wneud cais i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am drwydded.

Cymeradwyaeth

Efallai y bydd angen i ni gynnal ymweliad safle. Mae hyn fel rheol os ydych chi eisiau storio mwy na 250 cilogram o dân gwyllt neu ffrwydron.

Gwerthu tân gwyllt

Mae ond yn bosibl gwerthu tân gwyllt ar rai adegau o’r flwyddyn:

  • rhwng 15 Hydref a 10 Tachwedd
  • rhwng 26 Rhagfyr a 31 Rhagfyr
  • diwrnod cyntaf y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a 3 diwrnod cyn hynny
  • diwrnod cyntaf Diwali a 3 diwrnod cyn hynny


Os ydych chi’n dymuno gwerthu tân gwyllt tu allan i’r dyddiadau hyn, bydd angen trwydded gydol y flwyddyn arnoch chi - mae hynny’n ychwanegol i’r drwydded storio.

Bydd trwydded gydol y flwyddyn yn eich caniatáu i werthu tân gwyllt gydol y flwyddyn, tu allan i’r dyddiadau a nodir.

Storio tân gwyllt


Ffioedd

Pennir y ffioedd ar gyfer cadw symiau o ffrwydron gan Reoliadau Iechyd a Diogelwch a (Ffioedd) Niwclear 2022.

Trwydded Ddechreuol i Storio Ffrwydron (hyd at 250kg NEC (cynnwys ffrwydrol net) o dân gwyllt)

Hyd y DrwyddedCostTAWCyfanswm y Gost
1flwyddyn £119 £0 (0%) £119
2 flynedd £154 £0 (0%) £154
3 blynedd £190 £0 (0%) £190
4 blynedd £226 £0 (0%) £226
5 mlynedd £260     £0 (0%) £260 


Ffi ar gyfer amrywio, trosglwyddo neu newid trwydded: £40

Adnewyddu Trwydded i Storio Ffrwydron (hyd at 250kg NEC (cynnwys ffrwydrol net) o dân gwyllt)

Hyd y DrwyddedCostTAWCyfanswm y Gost
1flwyddyn £59       £0 (0%) £59      
2 flynedd £94 £0 (0%) £94
3 blynedd £132 £0 (0%) £132
4 blynedd £166 £0 (0%) £166
5 mlynedd £202     £0 (0%) £202    


Ffi ar gyfer amrywio, trosglwyddo neu newid trwydded: £40

Costau trwydded i storio hyd at 2000kg NEC (cynnwys ffrwydrol net) o dân gwyllt

Hyd y DrwyddedCostTAWCyfanswm y Gost
1flwyddyn £202      £0 (0%) £202      
2 flynedd £266 £0 (0%) £266
3 blynedd £333  £0 (0%) £333
4 blynedd £409  £0 (0%) £409
5 mlynedd £463     £0 (0%) £463


Ffi ar gyfer amrywio, trosglwyddo neu newid trwydded: £40

Costau adnewyddu trwydded i storio hyd at 2000kg NEC (cynnwys ffrwydrol net) o dân gwyllt

Hyd y DrwyddedCostTAWCyfanswm y Gost
1flwyddyn £94      £0 (0%) £94      
2 flynedd £161 £0 (0%) £161
3 blynedd £226 £0 (0%) £226
4 blynedd £291  £0 (0%) £291
5 mlynedd £357     £0 (0%) £357  


Ffi ar gyfer amrywio, trosglwyddo neu newid trwydded: £40

Rheoliadau Tân Gwyllt 2004 (Rheoliad 9)

  • £500 – Trwydded i werthu Tân Gwyllt drwy gydol y flwyddyn

Prosesu ac Amserlenni

Rhaid i ni ddelio â'ch cais o fewn 28 diwrnod. Efallai bydd angen i ni gynnal ymweliad safle. Mae hyn fel rheol os ydych chi eisiau storio mwy na 250 cilogram o dân gwyllt neu ffrwydron.

Cysylltu â ni

Os oes angen help arnoch chi gyda thrwyddedau tân gwyllt a ffrwydron, cysylltwch â ni:

  • Dros y ffôn: 01492 574110


Gallwch hefyd wneud eich cais; Drwy apwyntiad: rhwng 10.00am a 12.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

Coed Pella
Conway Road
Bae Colwyn
LL29 7AZ


Drwy'r post:

Safonau Masnach
Blwch Post 1
Bae Colwyn
LL29 0GG


Trwyddedau eraill ar gyfer ffrwydron

Rhaid sicrhau trwyddedau ar gyfer cynhyrchu ffrwydron gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Cais am Drwydded Storio

end content