Estyniad y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau
Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog, mae grantiau Ardrethi Annomestig a grantiau Dewisol Y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau ar gyfer y sectorau manwerthu dianghenraid, lletygarwch, twristiaeth a hamdden wedi'u hymestyn i ddarparu un taliad ychwanegol i dalu am y cyfnod rhwng 25 Ionawr a diwedd Mawrth 2021 ar gyfer busnesau y mae cyfyngiadau cenedlaethol yn effeithio arnynt.
Rydym yn gweinyddu dwy gronfa grant ar wahân:
- Grant Ardrethi Annomestig Y Gronfa i Fusnesau Dan Gyfyngiadau: mae’n rhaid i Fusnesau sydd ag eiddo busnes sydd wedi cofrestru gydag Ardrethi Busnes (gan gynnwys y rhai sy’n derbyn rhyddhad ardrethi) sy’n diwallu’r meini prawf ymgeisio am y grant Ardrethi Annomestig.
-
Grant yn ôl disgresiwn Y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau – I fusnesau SYDD HEB eiddo busnes wedi cofrestru gydag ardrethi busnes, sy’n diwallu cymhwyster dylent ymgeisio i’r gronfa Ddewisol [Diweddariad 4/2/21] Bydd manylion o bryd y bydd y grant ar agor yn cael eu cyhoeddi yn fuan.
Sylwer: Mae busnesau yn gymwys i ymgeisio am un grant yn amodol ar y gwiriwr cymhwyster.
Nid ydym yn gallu trosglwyddo ceisiadau rhwng cronfeydd. Darllenwch y meini prawf cymhwyster yn llawn cyn cyflwyno eich cais. Bydd ceisiadau i’r gronfa anghywir yn cael eu gwrthod.
Dewiswch un o’r canlynol i ymgeisio amdanynt:
Ticiwch os yw eich busnes wedi’i gynnwys yn y Rhestr Ardrethu Busnes ar 01.09.20 a’ch bod wedi cofrestru ar gofnodion y Cyngor gyda’r Adran Ardrethi Busnes.
Ticiwch y blwch hwn os nad yw eich busnes wedi cofrestru ar gyfer Ardrethi Busnes.
Dewiswch eich math o gais
Ticiwch os yw eich busnes wedi’i gynnwys yn y Rhestr Ardrethu Busnes ar 01.09.20 a’ch bod wedi cofrestru ar gofnodion y Cyngor gyda’r Adran Ardrethi Busnes.
Ticiwch y blwch hwn os nad yw eich busnes wedi cofrestru ar gyfer Ardrethi Busnes.