Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Hysbysiad-Preifatrwydd-yr-Amgylchedd

Hysbysiad Preifatrwydd Refeniw a Budd-daliadau


Summary (optional)
start content

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy pan fyddwn yn casglu eich gwybodaeth bersonol mewn perthynas â Gwasanaeth Asesu Refeniw a Budd-daliadau y Cyngor.

Mae’r Gwasanaeth Asesu Refeniw a Budd-daliadau yn cynnwys yr adrannau canlynol: Ardoll Ardal Gwella Busnes, Treth y Cyngor, Cymorth Treth y Cyngor, Prosesu Delweddu Dogfennau, Asiantau Gorfodi, Asesiadau Budd-dal Tai, Bathodynnau Glas, Mân Anfonebau, Cysoni Incwm ac Ardrethi Annomestig Cenedlaethol.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol. Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail gyfreithiol.

Pwrpas prosesu a'r sail gyfreithiol i brosesu eich gwybodaeth bersonol

Darpariaeth gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaeth Asesiadau Refeniw a Budd-daliadau

Os na fyddwch yn darparu gwybodaeth, ni fyddwn yn gallu darparu’r gwasanaeth hwn i chi. Mae anfon biliau, casglu a gorfodi ar drethi lleol (domestig ac annomestig) a dyledion amrywiol eraill, asesiadau a thalu Budd-dal Tai a Chymorth Treth y Cyngor yn gyfrifoldebau statudol y Cyngor.

Er mwyn galluogi i'r Cyngor gyflawni ei ddyletswyddau / rhwymedigaethau, mae angen i ni gasglu gwybodaeth bersonol gennych chi gan gynnwys eich enw, cyfeiriad, manylion cyswllt, dyddiad geni, gwybodaeth ariannol a gwybodaeth bersonol arall i anfonebu'n gywir ac / neu ymdrin â chais am ostyngiad i Dreth y Cyngor / Ardrethi Annomestig, cynnal asesiadau Budd-dal Tai / Cymorth Treth y Cyngor, cyflwyno Bathodynnau Glas ac anfonebu am wasanaethau eraill a ddarperir gan y Cyngor.

Efallai y byddwn hefyd eisiau gwybodaeth am y bobl sy’n byw yn yr un aelwyd â chi (sydd ddim yn ddibynyddion) pan fyddwch yn gwneud cais am Fudd-dal Tai / Gostyngiad i Dreth y Cyngor ac mae angen hynny i gyfrifo eich hawl.

Bydd y data ynglŷn â rhai sydd ddim yn ddibynyddion arnoch chi hefyd yn cael ei brosesu.I brofi fersiynau meddalwedd TG newydd, rydym yn defnyddio copi o ddata o'r ffrwd fyw. Mae hyn yn sicrhau bod y feddalwedd yn gweithio'n gywir ac yn ddiogel, gan ein helpu i wella ein gwasanaethau a diogelu eich data.

Gwella gwasanaeth, cynllunio / ymchwilio'n fewnol ar gyfer y gwasanaeth

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i wella’r gwasanaeth i chi a, lle bo hynny'n bosib', fel nad yw’n eich adnabod. Os ydych yn gwrthwynebu i ni ddefnyddio eich data personol, cysylltwch â ni.

Atal / canfod trosedd / twyll

Mae Deddf Troseddau Difrifol 2007 yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddatgelu gwybodaeth at ddibenion atal twyll, fel aelod o sefydliad gwrth-dwyll penodol neu fel arall yn unol ag unrhyw drefniadau a wnaed gyda sefydliad o’r fath.

Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau eraill naill ai i storio gwybodaeth bersonol neu i’n cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau i chi. Gallwn hefyd rannu eich gwybodaeth bersonol pan ydym o’r farn bod rheswm da dros wneud hynny, sy’n fwy pwysig na diogelu eich preifatrwydd chi. Er enghraifft, efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth er mwyn canfod neu atal trosedd neu dwyll.

Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â:

  • Gwasanaethau/adrannau eraill y Cyngor at ddibenion materion gorfodi’r Cyngor lle bo angen
  • Cyrff sy’n ymchwilio i neu'n prosesu hawliadau
  • Asiantaethau sector cyhoeddus e.e. yr Adran Gwaith a Phensiynau, yr Adran Drafnidiaeth, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, awdurdodau lleol eraill a chwmnïau sector preifat fel asiantaethau gwirio credyd
  • Cyrff sy’n gweithio i atal twyll a chefnogi mentrau twyll cenedlaethol

Cyfnod cadw neu’r meini prawf a ddefnyddir i bennu’r cyfnod cadw

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn unol â’r cyfnodau cadw sydd ym Mholisïau Cadw Data / Dogfennau'r Cyngor ar gyfer pob maes data a gasglwyd.

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn unol â’r cyfnodau cadw sydd ym Mholisïau Cadw Data / Dogfennau'r Cyngor ar gyfer pob maes data a gasglwyd.

Ffynonellau'r data personol a ph'run a ddaeth o ffynonellau sydd ar gael i’r cyhoedd

Daw gwybodaeth bersonol yn bennaf gan y cwsmer ond gall hefyd gael ei darparu gan ffynonellau eraill ar sail unigol e.e. asiantau gosod, cyfreithwyr, yr heddlu, landlordiaid, adrannau mewnol y Cyngor , neu unrhyw drydydd parti arall pan fo eiddo wedi’i feddiannu / yn wag.

Caiff gwybodaeth hefyd ei darparu gan gyrff eraill, i gynorthwyo â phrosesu ceisiadau ar gyfer Budd-dal Tai / Cymorth Treth y Cyngor neu ostyngiad i Dreth y Cyngor / Ardrethi Annomestig yn ogystal ag atal twyll, fel yr isod:

  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Asiantaeth y Swyddfa Brisio
  • Yr Adran Cyllid a Thollau
  • Gwasanaeth Pensiynau
  • Asiantaethau tystio credyd
  • Awdurdodau lleol eraill

Lle bo darparu data personol yn rhan o ofynion neu rwymedigaethau statudol neu gontract a chanlyniadau posib' methu â darparu’r data personol

Mae gennym ddyletswydd statudol i ddarparu’r gwasanaethau hyn i chi a defnyddio a datgelu eich gwybodaeth bersonol yn y modd a ddisgrifir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn, felly canlyniad methu â darparu eich gwybodaeth bersonol yw na fyddwn yn gallu cydymffurfio â’n dyletswydd statudol.

Gwneud penderfyniadau awtomataidd, yn cynnwys proffilio a gwybodaeth am sut y gwneir penderfyniadau, yr arwyddocâd a’r canlyniadau

Bydd rhai o’r systemau y mae Gwasanaeth Asesiadau Refeniw a Budd-daliadau yn eu defnyddio yn defnyddio’r data a ddarparwyd i wneud penderfyniadau awtomataidd. Mae gennych hawl gwrthod unrhyw benderfyniad a wneir yn awtomataidd a gofyn bod aelod o staff yn gwneud y penderfyniad.

Y defnydd o Ddata ar gyfer y Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol (Olrhain Teuluoedd Incwm Isel)

Fel rhan o raglen beilot a ariennir gan Lywodraeth Cymru, mae'r Cyngor yn defnyddio dangosfwrdd y Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol a ddatblygwyd gan Policy in Practice i nodi preswylwyr a allai fod yn gymwys am gefnogaeth ychwanegol. Mae hyn yn golygu ailddefnyddio data’r Adran Gwaith a Phensiynau o dan byrth cyfreithiol a gymeradwywyd.

Sut i gysylltu â ni

I arfer unrhyw rai o'ch hawliau o dan y ddeddfwriaeth diogelu data, cysylltwch â ni:

  • drwy e-bost: uned.llyw-gwyb@conwy.gov.uk
  • dros y ffôn: 01492 574016
  • drwy’r post: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Bae Colwyn, LL29 0GG

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd. Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ym mis Gorffennaf 2025.

Your information rights

Gweld hysbysiad preifatrwydd cyffredinol Conwy. Mae hwn hefyd yn cynnwys ein manylion cyswllt os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.

end content