Cael papurau enwebu
1. Gellir cael papurau enwebu gan y Swyddog Canlyniadau un ai ym Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7AZ neu’n electronig drwy etholiadol@conwy.gov.uk. Cyflwyno papurau enwebu
2. Rhaid cyflwyno’r papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau ddim hwyrach na 4pm ddydd Iau, 22 Mai 2025.
3. Gellir danfon papurau enwebu yn bersonol i’r Swyddog Canlyniadau ym Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, LL29 7AZ rhwng 10am a 4pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn (ac eithrio gwyliau banc) neu’n electronig yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad cyflwyno electronig isod.
4. Os bydd etholiad, cynhelir y bleidlais dydd Iau, 19 Mehefin 2025.
Cofrestru Etholwyr
5. Rhaid i geisiadau i ychwanegu enw at y Gofrestr Etholwyr er mwyn pleidleisio yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7AZ erbyn dydd Mawrth, 3 Mehefin 2025. Gellir cyflwyno ceisiadau ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
Pleidlais bost a thrwy ddirprwy
6. Dylai etholwyr a’u dirprwyon nodi bod yn rhaid i bob cais am bleidlais bost newydd, neu bob cais i ddiwygio neu ganslo pleidlais bost bresennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7AZ erbyn 5pm, ddydd Mercher, 4 Mehefin 2025. Mae hyn yn cynnwys etholwyr neu eu dirprwyon sy’n dymuno diwygio eu trefniadau presennol yn barhaol.
7. Rhaid i bob cais am bleidlais drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7AZ erbyn 5pm, ddydd Mercher, 11 Mehefin 2025.
8. Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy brys yn yr etholiad hwn ar sail anallu corfforol neu am resymau gwaith/gwasanaeth gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm, ddydd Iau, 19 Mehefin 2025. Rhaid i’r rheswm fod wedi digwydd ar ôl 5pm ddydd Mercher, 11 Mehefin 2025.
Datganiad cyflwyno’n electronig
9. Gellir cyflwyno papurau enwebu yn electronig yn unol â threfniadau a nodir yn y datganiad hwn -
- Gwiriadau anffurfiol - dros e-bost at etholiadol@conwy.gov.uk. Rhowch ‘GWIRIAD ANFFURFIOL – PENTRE MAWR’ yn nhestun y neges
- Cyflwyno enwebiadau - ewch i www.conwy.gov.uk/enwebiadau a chyflwynwch y papur enwebu drwy’r porth ar-lein
Sylwer:
- Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw sicrhau bod y Swyddog Canlyniadau yn cael y ffurflenni enwebu yn y ffordd gywir erbyn y dyddiadau cau.
- Nid yw derbynneb electronig bod y neges wedi ei ddarllen gan y Swyddog Canlyniadau yn gadarnhad bod yr enwebiad yn ddilys. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn anfon hysbysiad i roi gwybod i ymgeiswyr am ei benderfyniad a yw eu henwebiad yn ddilys neu beidio.
- Os bydd arnoch angen cymorth i gyflwyno eich enwebiadau’n electronig, cysylltwch ag etholiadol@conwy.gov.uk.

Rhun ap Gareth, Swyddog Canlyniadau
Dyddiedig: 14 Mai 2025
Cyhoeddwyd gan: y Swyddog Canlyniadau, Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7AZ
Rhif ffôn: 01492 576052