Y Cyngor yn cyflawni 11 mlynedd o Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd

Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cadw ardystiad Lefel 5 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd am yr unfed blwyddyn ar ddeg yn olynol.
Mae Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd yn unigryw i Gymru ac wedi’i dylunio i hyrwyddo rheolaeth amgylcheddol dda ac i helpu sefydliadau reoli eu gweithgareddau er mwyn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.
Yn dilyn asesiad chwe diwrnod yn y Cyngor, bu i archwilydd y Ddraig Werdd ganmol staff y Cyngor am eu hymwybyddiaeth o effeithiau amgylcheddol eu gweithgareddau, a’u brwdfrydedd i’w lleihau. Cymeradwyodd yr ymdrechion parhaus i wneud gwelliannau amgylcheddol ar draws safleoedd y Cyngor a ymwelodd hefyd.
Meddai’r Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet y Gymdogaeth a’r Amgylchedd, “Rwy’n falch iawn bod Conwy wedi cyflawni safon y Ddraig Werdd unwaith eto. Hoffwn longyfarch staff ar y cyflawniad hwn, a diolch iddynt am weithio mor galed i fodloni’r gofynion angenrheidiol.
Mae’n dangos ein hymrwymiad i welliant amgylcheddol ac yn dangos ein bod yn cyflawni cam blaenoriaeth Cynllun Corfforaethol Conwy 2022-2027, wrth i ni weithio tuag at ein nod o fod yn sero net erbyn 2030.
“Rydym yn parhau i wreiddio arferion amgylcheddol da yn ein bywydau bob dydd, ac wrth wneud hynny, rydym yn diogelu amgylchedd naturiol Conwy nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Cefndir:
Mae yna bum lefel o fewn Safon y Ddraig Werdd.
Mae pob lefel yn cynnwys elfennau allweddol ar gynllunio, gweithredu, gwirio cynnydd ac adolygu cyflawniadau er mwyn sicrhau gwelliant amgylcheddol parhaus.
I gael rhagor o wybodaeth am Safon y Ddraig Werdd, ewch i Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd - Groundwork and Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 17/04/2025