Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Campfa Ffit Conwy Newydd yn Agor yn Ysgol Y Creuddyn, Bae Penrhyn

Campfa Ffit Conwy Newydd yn Agor yn Ysgol Y Creuddyn, Bae Penrhyn


Summary (optional)
start content

Campfa Ffit Conwy Newydd yn Agor yn Ysgol Y Creuddyn, Bae Penrhyn

New Ffit Conwy Gym in Ysgol Creuddyn

Campfa Ffit Conwy Newydd yn Ysgol Y Creuddyn

Ffit Conwy yn datgelu campfa newydd o'r radd flaenaf ym Mae Penrhyn, gan hyrwyddo ffyrdd iach o fyw i bob oed

Ddydd Llun, 9 Mehefin 2025, agorodd Gwasanaeth Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy  gampfa Ffit Conwy newydd ei datblygu yng Nghanolfan Hamdden Y Creuddyn.

Dros y pedwar mis diwethaf, mae hen gampfa Ysgol Y Creuddyn o'r 1980au wedi'i thrawsnewid yn gampfa eang â chyfarpar llawn.  Mae'n cynnwys ardal cardio gyda'r peiriannau Technogym diweddaraf, ardal ymwrthedd Watson, gan gynnwys y llwyfannau Codi poblogaidd, a thrac synthetig gydag ardal ar gyfer hyfforddiant Hyrox.

Mae prosiect Ymgysylltiad Chwaraeon a Gweithgaredd Iau Ffit Conwy wedi cael £126,000 gan lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU - i gefnogi elfen o’r cyfleuster hwn, mae’r prosiect ehangach yn annog ac yn cefnogi pobl ifanc i gynyddu lefelau gweithgarwch.

Dywedodd Pennaeth Adran Ffit Conwy, Mally Tidswell: “Mae cael mynediad at y cyllid grant a gweithio ar y cyd ag Ysgol Y Creuddyn wedi ein galluogi i roi bywyd newydd i gampfa’r ysgol.  Mae’r cyfleusterau’n cefnogi ein cynllun gwella gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar ysbrydoli plant ac oedolion i symud mwy.

“Rydym yn falch iawn o sut mae’r gampfa wedi datblygu; mae ymestyn ein cynnig i selogion ffitrwydd yn ychwanegiad hanfodol i’r gymuned, gan gynnig gwasanaethau hanfodol a hyrwyddo ffordd iach o fyw i bawb.

“Bydd mwy o gyhoeddiadau ar welliannau i wasanaethau Ffit Conwy drwy gydol y flwyddyn hon felly cadwch lygad ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf.”

Bydd gan Ysgol y Creuddyn fynediad i’r gampfa o fewn oriau ysgol a bydd tîm Ffit Conwy yn darparu sesiynau cryfder a chyflyru dan arweiniad hyfforddwr i’r disgyblion.

Dywedodd y Pennaeth, Gwenno Mair Davies: "Rydym yn hynod gyffrous am y gampfa newydd, o'r radd flaenaf yma yn Ysgol y Creuddyn.

“Mae ein staff ymroddedig o fewn Maes Dysgu Iechyd a Lles, yn enwedig o fewn yr adran Addysg Gorfforol, yn gweithio'n ddiflino yn eu hymrwymiad i flaenoriaethu iechyd corfforol a lles meddyliol ac i annog ein myfyrwyr i fyw bywydau egnïol ac iach.

“Bydd y cyfleuster gwych hwn yn cryfhau ac yn gwella'r gwaith gwych maen nhw'n ei wneud a bydd yn sicr o gael effaith gadarnhaol ar yr ysgol a'r gymuned ehangach."

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Roberts, Aelod Cabinet Diwylliant, Llywodraethu a TG: “Rydym yn falch o ddarparu offer a chyfleusterau o'r radd flaenaf mewn amgylchedd modern.  Mae'n atgyfnerthu brand Ffit Conwy ac ymrwymiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i iechyd a lles trigolion.”

Mae'r gampfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener: 6am – 8am a 4:30pm – 9.30pm, dydd Sadwrn a dydd Sul: 8am – 12pm. I aelodau Ffit Conwy mae'r gampfa wedi'i chynnwys yn yr aelodaeth ac i rai nad ydynt yn aelodau £8 (consesiynau £5) yr awr.

Gellir archebu sesiynau bob awr drwy Ap Ffit Conwy, ar-lein yn ffitconwy.co.uk neu drwy ffonio 0300 456 95 25. 

 

Nodiadau:

Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy  

Wedi ei bostio ar 10/06/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content