Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn nhref Conwy

Conwy Diogelach
Mae’r mesurau a gyflwynwyd i atal trosedd, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn nhref Conwy wedi’u hymestyn am dair blynedd arall.
Drwy weithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymestyn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn nhref Conwy, yn cynnwys y Stryd Fawr, y Cei, yr orsaf drenau a Pharc Bodlondeb.
Mae’r Gorchymyn yn golygu y bydd unrhyw un sy’n gwrthod rhoi’r gorau i yfed alcohol, neu sy’n gwrthod ildio’r alcohol pan fydd Swyddog yr Heddlu neu Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn gofyn, yn agored i gael Rhybudd Cosb Benodedig neu ddirwy drwy’r llysoedd.
Cyflwynwyd y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus presennol yn nhref Conwy ym mis Mai 2022, dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 i helpu i fynd i’r afael â’r materion hyn er budd preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr â’r dref.
Gwahoddwyd preswylwyr lleol, perchnogion busnes a chynghorwyr i gyflwyno eu barn ynghylch ymestyn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus, ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau.
Dywedodd y Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet y Gymdogaeth, yr Amgylchedd a Gwasanaethau Rheoleiddio Conwy, “Rydym yn gobeithio, drwy ymestyn y Gorchymyn hwn, y bydd yn parhau i fod yn rhwystr effeithiol, a hefyd yn galluogi i droseddwyr gael eu trin yn gyflym gan Swyddogion yr Heddlu.”
Dywedodd y Prif Arolygydd Trystan Bevan, “Credwn yn yr achos hwn y bydd Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn gwneud ein cymuned yn fwy diogel ac yn ein helpu i fynd i’r afael â phroblemau sy’n achosi braw, ofn a niwsans i breswylwyr lleol. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol; bydd Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio gyda’n partneriaid er mwyn sicrhau cadernid wrth orfodi’r gyfraith i gyflwyno cymdogaeth fwy diogel i bawb.”
Gellir gweld y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus a’r map yn: Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus Presennol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Nodiadau:
Mae Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn galluogi Awdurdodau Lleol i osod gwaharddiadau neu ofynion ar ardaloedd penodol fel bod dinasyddion sy'n parchu'r gyfraith yn gallu mwynhau mannau cyhoeddus heb gael eu heffeithio gan ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Mae’r Gorchmynion yn ddilys am gyfnod o dair blynedd oni bai y cânt eu hymestyn.
Conwy Diogelach: Conwy Diogelach - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 04/06/2025