Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Rhoi wyneb newydd ar ffordd: Rhodfa Llanelwy, Bae Cinmel, 28 Ebrill - 2 Mai

Rhoi wyneb newydd ar ffordd: Rhodfa Llanelwy, Bae Cinmel, 28 Ebrill - 2 Mai


Summary (optional)
start content

Rhoi wyneb newydd ar ffordd: Rhodfa Llanelwy, Bae Cinmel, 28 Ebrill - 2 Mai

Roadworks

Gwaith ffyrdd

Gwaith yn dechrau: Dydd Llun 28 Ebrill 2025

Gwaith yn dod i ben: Dydd Gwener 2 Mai 2025

Beth sy’n digwydd? 

Rydym yn rhoi wyneb newydd ar y ffordd ar Rodfa Llanelwy o bwynt i’r de o’r gyffordd â’r A548 hyd y gyffordd â Rhodfa Cader (dros y bont reilffordd). 

Bydd ein contractwr yn gweithio o 7am tan 2am.Bydd yn rhaid i ni gau rhannau o’r ffordd ar brydiau er mwyn gwneud y gwaith hwn.  Bydd gwyriad gydag arwyddion a threfniadau gweithio mewn confoi. 

A fydd hyn yn effeithio ar barcio?

Bydd – ni fydd modd parcio ar rai rhannau o’r ffordd tra byddwn yn gwneud y gwaith.

Bydd mynediad i gerddwyr gydol y cyfnod.

Beth yw rhoi wyneb newydd?

Cam 1 – tynnu’r wyneb presennol (plaenio)

Cam 2 – addasu neu ailosod y gwaith haearn, tyllau caead a gylïau draeniau

Cam 3 – glanhau’r wyneb ag ysgubwr mecanyddol

Cam 4 – gosod haen fondio, i sicrhau bod y wyneb newydd yn glynu

Cam 5 – gosod yr wyneb newydd

Cam 6 – cywasgu a lefelu’r wyneb newydd â rholeri

Cam 7 – ailbeintio'r marciau ar y ffordd.

Mae rhoi wyneb newydd ar ffordd yn waith swnllyd a llychlyd, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.  Bydd yr wyneb newydd ar y ffordd yn arwain at daith fwy llyfn a thawel ar y ffordd a bydd manteision parhaus i’r gymuned.

Cwestiynau?

Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cynghori Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ar affch@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337. 

Diolch i chi am eich amynedd wrth i’n contractwr wneud y gwaith.


 

 

Wedi ei bostio ar 23/04/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content