Yn dilyn llwyddiant Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol, Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, rydym yn gwneud cais am ragor o gyllid ar gyfer prosiect Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol drwy gyfle Cronfa Ffyniant Gyffredin 2025/26.
Byddai Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol Conwy yn rhoi cyfle i grwpiau ymgeisio am gyllid cyfalaf a refeniw ar gyfer prosiectau sy’n cefnogi adfywio eu cymunedau yng Nghonwy.
Gan obeithio’n fawr a chyn derbyn cymeradwyaeth, dyma rannu trosolwg byr o’r hyn y mae angen i ymgeiswyr ei wybod:
- Gallai ymgeiswyr wneud cais am leiafswm o £10,000.00 ac uchafswm o hyd at £75,000.00 ar gyfer prosiectau ar raddfa fawr, a allai gynnwys gwneud gwelliannau i asedau cymunedol neu brosiectau eraill ar raddfa fawr. Mae’n debygol y byddai angen rhywfaint o gyllid cyfatebol.
- Gallai Cynghorau Tref a Chymuned yn Sir Conwy hefyd gael mynediad at swm a glustnodwyd ar gyfer prosiectau llai o hyd at £10,000.00. Byddai angen i’r rhain fod yn brosiectau a fyddai’n gwneud gwahaniaeth amlwg yn eu hardal leol.
- Byddai pob cais yn cael ei asesu fesul achos a bydd cryn gystadleuaeth am gyllid.
- Byddai angen cyflawni a chwblhau’r prosiectau erbyn dechrau 2026.
- Byddai ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am gyflwyno eu prosiectau arfaethedig a llunio adroddiadau cynnydd a monitro rheolaidd i sicrhau bod gwariant ac amserlenni’n cael eu cyflawni o fewn cyfnod cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Os oes gennych chi syniad prosiect a bod modd i chi gyflwyno cais am gyllid yn fuan, siaradwch gyda’r tîm drwy anfon e-bost at
datblygu.lleol@conwy.gov.uk / ffonio 01492 577 824, er mwyn i ni allu dechrau asesu diddordeb yn y gronfa. Sylwch mai ymarfer cwmpasu cychwynnol yw hwn.
Cyn gynted ag y byddwn yn gwybod a yw ein cais ar gyfer y Gronfa Allweddol Adfywio Cymunedol wedi bod yn llwyddiannus, byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth ynghylch y broses ac amserlenni.