Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi pum cenhadaeth genedlaethol llywodraeth y DU: gwthio pŵer allan i gymunedau ym mhobman, gyda ffocws penodol ar helpu i roi hwb i dwf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o’r DU.
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy
Mae cronfa Allweddol Cefnogi Busnesau Lleol yn gynllun grant datblygu busnes i gefnogi ein busnesau masnachol neu gymdeithasol lleol i ffynnu, arloesi a thyfu.
Mae'r cynllun yn cynnig cyllid o HYD AT 70% ar wariant cyfalaf a/neu refeniw cymwys ar gyfer prosiectau, gyda dyfarniadau o £5,000 hyd at £50,000 yn cael eu cynnig.
Bydd y gronfa allweddol yn darparu grantiau i gefnogi twf economaidd a chynaliadwyedd, drwy gyflawni amrywiaeth o brosiectau datblygu busnes yn unol ag amcanion blaenoriaeth buddsoddi busnesau lleol ategol.
- Creu swyddi a hybu cydlyniant cymunedol, drwy fuddsoddiadau sy'n adeiladu ar ddiwydiannau a sefydliadau presennol.
- Hyrwyddo rhwydweithio a chydweithio, drwy ymyriadau sy'n dod â busnesau a phartneriaid ynghyd o fewn ac ar draws sectorau i rannu gwybodaeth, arbenigedd ac adnoddau, ac ysgogi arloesedd a thwf.
- Cynyddu buddsoddiad y sector preifat mewn gweithgareddau sy'n hybu twf, drwy gefnogaeth wedi'i thargedu i fusnesau bach a chanolig i ymgymryd ag arloesedd newydd, mabwysiadu technolegau a thechnegau sy'n hybu cynhyrchiant, sy'n effeithlon o ran ynni ac sy'n isel mewn carbon, a dechrau neu ddatblygu allforion.
Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn cymorth buddsoddi, mae’n rhaid i fusnesau gael eu lleoli a’u gweithredu yn Sir Conwy, wedi bod yn masnachu dros 6 mis ac wedi cofrestru gyda CaThEF.
Mae’r cynllun wedi’i dargedu at fentrau bach a chanolig (sy’n cyflogi hyd at 250 o bobl) gydag un ai trosiant o lai na £44 miliwn neu fantolen lai na £38 miliwn.
Ar hyn o bryd, nid yw'r gronfa ar agor i geisiadau gan dderbynwyr grantiau drwy rownd flaenorol Cronfa Allweddol Busnes Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Bydd ceisiadau'n cael eu gwneud drwy’r ffurflen ar-lein. Ynghyd â’r ffurflen gais bydd angen nifer o ddogfennau ategol eraill.
Darllenwch y ddogfen ganllaw yn llawn i sicrhau bod yr holl wybodaeth ynghlwm cyn cyflwyno’r cais.
Canllawiau a ffurflenni:
Mae'r cynllun grant hwn yn ddewisol a bydd yn cael ei weithredu ar sail y cyntaf i'r felin, yn dibynnu ar argaeledd arian a’r gallu i gwblhau'r prosiect o fewn y cyfnod penodol.
Ni ystyrir fod ceisiadau wedi eu cyflwyno’n llawn hyd nes bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen wedi ei derbyn.
Gofynnir i chi siarad ag aelod o’r Tîm Cymorth Busnes cyn cyflwyno unrhyw gais. I siarad ag aelod o’r tîm, anfonwch neges e-bost at busnes@conwy.gov.uk.