Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Paratoi ar gyfer eich cyfweliad


Summary (optional)
start content

Mae’r broses gyfweld yn ffordd o’n helpu ni i ddod i’ch adnabod chi ac i ddeall pa sgiliau a phrofiadau allweddol y gallwch eu cynnig i’r swydd. Rydym yn gwybod y gall cyfweliadau achosi straen ac rydym eisiau eich sicrhau y bydd yr holl unigolion sy’n cyfweld yn gwneud eu gorau i dawelu eich meddwl. Y ffordd orau o drechu’r teimladau anghysurus hyn yw paratoi. Rydym wedi llunio rhai cwestiynau a allai gael eu gofyn i chi sy’n seiliedig ar eich cymwyseddau craidd a gwerthoedd ac rydym yn gobeithio y bydd o gymorth i chi.

Bwriad y cwestiynau hyn yw rhoi syniad cyffredinol i chi o’r hyn y gallem ei ofyn i chi yn eich cyfweliad, ond nid oes sicrwydd y bydd yr union gwestiynau hyn yn cael eu gofyn. Felly tra gall yr enghreifftiau hyn eich helpu chi i baratoi, mae’n bwysig bod yn hyblyg ac yn barod am unrhyw gwestiynau sy’n berthnasol i’r maes gwasanaeth yr ydych yn cyfweld ar ei gyfer yn ogystal â’r swydd benodol. Edrychwch ar y manylion am yr unigolyn ar y ffurflen gais i gael teimlad o’r hyn a gaiff o bosibl ei ofyn i chi a meddyliwch am ba enghraifft y gallech chi ei darparu. Os ydych chi’n newydd i’r byd gwaith, neu wedi cael seibiant gyrfa, cofiwch gall eich enghreifftiau fod o unrhyw agwedd o’ch bywyd.

Addysg a phrofiad gwaith

  • Dywedwch wrthyf am eich addysg a sut mae hynny wedi helpu i’ch paratoi ar gyfer y swydd hon?
  • Dywedwch wrthyf am unrhyw waith neu brofiad gwirfoddol sydd yn berthnasol yn eich barn chi?


Datrys problemau a meddwl yn feirniadol

  • Disgrifiwch amser pan roeddech chi’n wynebu her. Sut aethoch chi ati i ddatrys hynny a beth ddigwyddodd?
  • Allwch chi ddisgrifio adeg pan oedd gennych chi sawl tasg i’w cwblhau o fewn terfynau amser tynn? Sut aethoch chi ati i flaenoriaethu eich llwyth gwaith, a beth oedd y canlyniad?


Sgiliau cyfathrebu

  • Allwch chi ddisgrifio adeg pan oedd rhaid i chi gyfathrebu gwybodaeth bwysig i gydweithiwr neu dîm? Sut aethoch chi ati i sicrhau bod eich neges yn cael ei deall yn eglur?
  • Allwch chi ddisgrifio adeg pan oedd rhaid i chi ymdrin â sgwrs anodd gyda chwsmer? Sut wnaethoch chi siarad gyda’r cwsmer i ddatrys y broblem, a beth oedd y canlyniad?


Arweinyddiaeth a rheoli

  • Allwch chi ddarparu enghraifft o’r hyn rydych wedi ei wneud i gefnogi lles rhywun? Pa gamau wnaethoch chi eu cymryd, a beth oedd y canlyniad?
  • Disgrifiwch adeg pan oedd rhaid i chi arwain tîm trwy newid sylweddol. Sut aethoch chi ati i ysbrydoli ac ysgogi eich tîm?


Menter ac ymagwedd ragweithiol

  • Dywedwch wrthyf am adeg pan wnaethoch chi gymryd y cam i wella a phrosesu neu ddatrys problem. Pa gamau wnaethoch chi eu cymryd?
  • Disgrifiwch sefyllfa lle yr aethoch y tu hwnt i’ch cyfrifoldebau yn y swydd i gyflawni nod.


Rheoli amser a threfnu

  • Dywedwch wrthyf am adeg pan oedd rhaid i chi reoli sawl tasg neu brosiect. Sut aethoch chi ati i flaenoriaethu a pharhau’n drefnus?
  • Sut ydych chi’n ymdrin ag achosion o darfu neu dynnu sylw yn ystod eich diwrnod gwaith?


Rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith

  • Allwch chi ddisgrifio prosiect neu dasg yr ydych wedi gweithio arno yr oeddech chi’n angerddol yn ei gylch? Sut ddylanwadodd eich angerdd ar y canlyniad?
  • Disgrifiwch sefyllfa lle roedd rhaid i chi sicrhau fod ansawdd eich gwaith o safon uchel. Sut aethoch chi ati i fynd i’r afael â’r dasg hon a pha gamau wnaethoch chi eu cymryd i gynnal safonau uchel?


Rydym yn deg â phawb

  • Dywedwch wrthym am adeg pan oedd rhaid i chi wneud penderfyniadau a effeithiodd eraill. Sut aethoch chi ati i sicrhau tegwch yn y broses o wneud penderfyniad?
  • Allwch chi roi enghraifft o sut rydych wedi hyrwyddo cynhwysiant a thegwch yn eich gweithle? Pa fentrau neu gamau wnaethoch chi eu gweithredu?


Rydym yn arloesol

  • Disgrifiwch sefyllfa lle wnaethoch chi gyflwyno syniad newydd. Sut wnaethoch chi ei weithredu, a beth oedd yr effaith?
  • Allwch chi rannu profiad lle bu’n rhaid i chi addasu i dechnoleg newydd neu ffordd newydd o weithio? Pa gamau wnaethoch chi eu cymryd i addasu a sut ydych chi’n parhau’n gyfredol


Rydym yn gweithio fel tîm

  • Disgrifiwch sefyllfa lle roedd rhaid i chi weithio’n agos gyda thîm i gyflawni nod cyffredin. Beth oedd eich rôl a sut wnaethoch chi gyfrannu at lwyddiant y tîm?
  • Dywedwch wrthyf am adeg lle roedd rhaid i chi weithio gydag aelod o’r tîm a oedd â ffordd wahanol o weithio i chi. Sut wnaethoch chi ymdrin â hynny?


Rhai pwyntiau ychwanegol gennym ni

  • Gwnewch rywfaint o ymchwil i’n sefydliad ni a’r swydd rydych chi wedi gwneud cais amdani
  • Ceisiwch ddeall eich cryfderau a’ch gwendidau a sut maent yn effeithio’r swydd rydych chi’n gwneud cais amdani
  • Meddyliwch am eich uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol a’r hyn y mae hynny’n ei olygu i chi ac i ni
  • Ystyriwch eich profiad gwaith ac enghreifftiau o sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol, a byddwch yn barod i siarad amdanynt
  • Mae paratoi yn allweddol, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â'r swydd ddisgrifiad, y manylion am yr unigolyn a bod eich dogfennau wedi'u paratoi
  • Mae’n bwysig ein bod ni’n addas i chi hefyd. Meddyliwch am unrhyw gwestiynau yr hoffech eu gofyn o bosibl ynglŷn â’r rôl neu sut beth yw gweithio i Gonwy
  • Cynlluniwch yr hyn rydych chi am ei wisgo
  • Cyrhaeddwch mewn da bryd
end content