Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Y Camau nesaf ar ôl eich cyfweliad


Summary (optional)
start content

Ar ddiwedd cyfweliad, bydd y rheolwr recriwtio yn eich hysbysu o’r amserlenni ar gyfer rhoi gwybod i ymgeiswyr p’un a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ai peidio. Bydd hyn yn digwydd ar yr un diwrnod fel arfer, ond ambell waith rhoddir gwybod y diwrnod / wythnos ganlynol yn dibynnu ar nifer y cyfweliadau a gynhelir.

Bydd y rheolwr recriwtio yn eich ffonio i roi’r canlyniad ac adborth am sut aeth y cyfweliad. Bydd yr adborth a roddir yn eich galluogi i ddeall beth aeth yn dda, a nodi pa feysydd y mae angen i chi eu gwella.

Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Cychwynwyr Newydd.

Diogelu

Rydym yn credu bod gan bob plentyn ac oedolyn yr hawl i gael eu diogelu rhag niwed. Mae Diogelu yn berthnasol i bawb yn y Cyngor.

Byddwn yn cynnal gwiriadau cyn cyflogi ar staff cymwys, gwirfoddolwyr ac eraill sy'n gwneud gwaith ar ran y Cyngor fel rhan o'r gweithdrefnau recriwtio. Mae rhagor o wybodaeth am ein Polisi Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ar gael yma.

end content