Ein rhaglen Lleoliad Gwaith â Thâl ar agor nawr! Dechrau arni ym myd gwaith!
Wyt ti’n gadael yr ysgol, coleg neu’r brifysgol, ac yn barod i archwilio byd gwaith? Os felly, mae gennym nifer o gyfleoedd cyffrous yn aros amdanat!
Mae ein lleoliadau gwaith am dâl, 25 awr yr wythnos am 16 wythnos yn cael eu talu ar y Cyflog Byw Cenedlaethol, wedi’u dylunio i ddarparu sgiliau, profiad a hyder er mwyn cymryd dy gamau cyntaf tuag at dy yrfa ddewisol.
Mae’r lleoliadau hyn yn berffaith ar gyfer y sawl sydd eisiau agor y drws i gyflogaeth, eisiau ychydig o brofiad gwaith i ychwanegu at eu CV, neu eisiau rhoi cynnig ar swydd cyn ymrwymo i’r maes.
Pam ymuno â ni? Ennill:
- profiad rhagweithiol: cymryd rhan mewn tasgau a phrosiectau go iawn
- mentor: dysgu gan weithwyr proffesiynol y llywodraeth leol
- sgiliau: magu a datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer dy ddyfodol
Cymera gip ar y cyfleoedd cyffrous sydd gennym ar gael i weld a oes un sy’n tanio’r dychymyg. Rhaid i holl leoliadau gael eu cwblhau erbyn diwedd Chwefror 2026 i fodloni gofynion cyllido.
Lleoliadau sydd ar gael
Gweithiwr Cychod dan Hyfforddiant
Gweithio dan oruchwyliaeth uniongyrchol yr Harbwrfeistr ar Ddyletswydd yn unol â’r rhaglen waith wythnosol a gweithredu llong angori / lansio / cwch patrolio yn unol â chyfarwyddiadau gweithredu perthnasol.
Swyddog Cefnogi
Cefnogi’r rhaglen Adferiad Creadigol Hadau Newid, a luniwyd i helpu pobl i reoli eu hiechyd meddwl a’u lles drwy gefnogaeth strwythuredig ar ffurf gweithgareddau drwy gydol yr wythnos. Mae hyn yn cynnwys sesiynau megis celf a chrefft, gweithgareddau awyr agored, pysgota, byw yn y gwyllt a chanu.
Pwrpas y swydd yw cefnogi’r cydlynydd i sicrhau fod y rhaglen ddyddiol yn rhedeg yn esmwyth, ymgysylltu â chyfranogwyr, cefnogaeth â darparu sesiynau lle bo angen a thasgau gweinyddol perthnasol.
Cynorthwyydd Gweithrediadau Hamdden
Mae Ffit Conwy’n ymrwymo i ddarparu profiad hamdden rhagorol yn Eirias. Mae ein hymrwymiad yn dechrau gyda chroeso cynnes yn y dderbynfa ac yn ymestyn i gynnal safon uchel o lanweithdra ar draws ein cyfleusterau.
Yn ogystal â hynny, mae ein tîm o gynorthwywyr hamdden yn sicrhau fod cyfarpar ffitrwydd a chwaraeon wedi’u gosod a’u cadw’n briodol, er mwyn sicrhau profiad llyfn a phleserus i bawb.
Swyddog TG Cynorthwyol dan Hyfforddiant
Gweithio fel aelod o’r tîm Desg Gwasanaeth TG: yn cofnodi a datrys problemau TG drwy’r ganolfan gyswllt, sgwrsio, e-bost ac wyneb yn wyneb; paratoi offer TG, e.e. gliniaduron, a’r broses o’u trosglwyddo i ddefnyddwyr TG; sicrhau fod offer gorsafoedd gwaith ac ystafelloedd cyfarfod yn cael eu gosod ac yn gweithio’n briodol ar gyfer defnyddwyr TG, cyfarfodydd a digwyddiadau hyfforddiant.
Cefnogi Datblygu Economaidd
Gweithio fel rhan o’r Tîm Datblygu Economaidd a bod yn rhagweithiol wrth gefnogi darpariaeth uchelgeisiau Strategaeth Twf Economaidd Conwy, Cynllun Rheoli Cyrchfan Conwy 2023-2029, strategaeth ddiwylliant Creu Conwy - Tanio’r Fflam a strategaethau Adfywio Llywodraeth Cymru a Chroeso Cymru.
Mae’r rôl hon yn cynnig profiad ymarferol o ran prosiectau datblygu economaidd, dadansoddi polisïau ac ymgysylltu â chymunedau.
Gweithiwr Cryfhau Teuluoedd
Mae’r lleoliad gwaith hwn yn cynnig cyflwyniad i weithio mewn tîm cymorth cymdeithasol i helpu unigolion a theuluoedd yn y gymuned. Byddwch yn cefnogi gweithwyr therapiwtig drwy helpu i baratoi pecynnau ac adnoddau gweithgareddau, helpu â thasgau gweinyddol syml, a mynychu ymweliadau teulu â staff o bryd i’w gilydd i arsylwi a dysgu.
Mae’n gyfle gwych i ddatblygu hyder, sgiliau cyfathrebu a deall sut gall timau gofal cymdeithasol wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl.
Cynorthwyydd Gwarchod y Cyhoedd
Cefnogi’r tîm i fonitro busnesau ac amgylcheddau lleol i sicrhau eu bod yn cadw at reolau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol.
Mae hyn yn cynnwys helpu i gynnal gwiriadau, rhoi gwybod am broblemau a chefnogi tasgau gorfodi dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth uwch aelodau staff.
Swyddog Cefnogi Prosiect
Mae hon yn swydd gyntaf wych i rywun sy’n drefnus, yn gyfeillgar ac yn barod i ddysgu. Byddwch yn helpu’r tîm gydag amrywiaeth o dasgau a digwyddiadau cymunedol megis ffeiriau swyddi a sesiynau hyfforddiant.
Mae hi’n swydd amrywiol ble nad yw’r un diwrnod yr un fath a byddwch yn cael digon o gefnogaeth wrth i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch hyder.
Yn barod i ymgeisio?
Llenwch y ffurflen gais heddiw a’i hanfon drwy e-bost i swyddi@conwy.gov.uk erbyn 17 Medi 2025.
Bwriedir cynnal y cyfweliadau yn yr wythnos sy’n dechrau ar 6 Hydref.
Am sgwrs anffurfiol am unrhyw un o’r cyfleoedd cysylltwch â Cheryl Roberts ar 01492 576126 neu Rebecca Jones ar 01492 576322.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i’n Safonau’r Gymraeg. Croesawir ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy’n diwallu gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad. Byddwn yn darparu cyfleusterau gwaith addas ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr gydag anabledd. Gall pobl anabl ddewis gwneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â ni ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.