Beth yw’r problemau?
Nid oes unrhyw lwybr teithio llesol rhwng Glan Conwy a Chyffordd Llandudno ar hyn o bryd. Nid yw’r llwybrau presennol yn addas nac yn hawdd i bawb eu defnyddio.
Ynglŷn â'r prosiect
Rydym yn creu llwybr teithio llesol rhwng Glan Conwy a mynedfa’r RSPB ar Gyffordd 18 yr A55. Bydd y llwybr a rennir yn hygyrch i bawb, yn addas ar gyfer cerddwyr, beicwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn, pramiau a sgwteri symudedd.
Bydd y llwybr yn cysylltu â’r gwelliannau teithio llesol diweddar a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar Gyffordd 18 yr A55 (rhwng cylchfannau’r RSPB a Tesco) a hefyd yn cysylltu â’r bont i’r Cob ar gyfer teithio i Gonwy.
Hyd y llwybr newydd fydd tua 2km (1 ¼ milltir). Mae’r llwybr yn cynnwys:
- Pont newydd yn croesi rheilffordd Dyffryn Conwy o gilfan yr A470
- Mynediad ramp o'r bont hon i'r llwybr rhwng y rheilffordd ac Afon Ganol
- Pont newydd dros Afon Ganol
- Llwybr a rennir o amgylch ymyl gwarchodfa’r RSPB i’r ganolfan ymwelwyr
- Llwybr a rennir at yr A55, Cyffordd 18
- Llwybr gwell at bont Cob Conwy
Rydym wedi cytuno ar aliniad y llwybr gyda budd-ddeiliaid allweddol, gan gynnwys yr RSPB.
Rhaglen
Gwaith Cam 1 o bont reilffordd Conwy a heibio i ganolfan ymwelwyr yr RSPB: Mis Mawrth - mis Mehefin 2025
Mae hyn yn cynnwys:
- Clirio safle
- Gwella'r llwybr o bont rheilffordd Conwy i faes parcio'r RSPB
- Mynediad cerbydau newydd i staff yr RSPB i mewn i'r warchodfa
- Creu’r llwybr newydd
Gwaith Cam 2 heibio i ganolfan ymwelwyr yr RSPB i gilfan yr A470: Mis Medi 2025 - mis Gorffennaf 2026
- Mae hyn yn cynnwys:
- Clirio’r safle
- Creu'r llwybr newydd, gan gynnwys gosod ffensys
- Adeiladu’r bont dros Afon Ganol
- Adeiladu’r bont dros y rheilffordd
- Ramp rhwng y ddwy bont
- Gosod goleuadau
Byddwn yn adolygu ac yn monitro'r rhaglen wrth i'r gwaith fynd rhagddo, er mwyn lleihau'r effaith ecolegol. Bydd hyn yn cynnwys cyfyngiadau ar weithio yn ystod misoedd yr haf er mwyn osgoi tarfu ar adar yn y warchodfa.
Delweddau
Cyllid
Ariannwyd camau cynnar y gwaith dylunio gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Ariennir y prif waith dylunio ac adeiladu gan Lywodraeth y DU, gyda 10% o arian cyfatebol gan y Cyngor.
Cyfanswm y gost ar gyfer y prosiect yw £5.6 miliwn.

Llwybr ychwanegol
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y llwybr ychwanegol o'r gilfan i ganol pentref Glan Conwy.
Rydym hefyd yn edrych ar opsiynau strategol ar gyfer llwybr teithio llesol Môr i’r Mynydd o Gyffordd Llandudno i Fetws-y-Coed, sy’n brosiect tymor hwy.
Cwestiynau Cyffredin
content
Mae teithio llesol yn golygu teithio o gwmpas bob dydd ar droed, ar feic neu ar olwynion yn hytrach na defnyddio cludiant fel car neu fws (mae teithio ar olwynion yn cynnwys defnyddio sgwter symudedd neu gadair olwyn). Mae hynny’n cynnwys mynd i’r gwaith, i’r ysgol, i’r coleg, i’r siopau ac i gyfleusterau hamdden. Mae teithio llesol yn annog ffyrdd iachach o deithio ac yn creu llai o draffig.
Mae’n ofynnol dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 bod y Cyngor yn hyrwyddo llwybrau teithio llesol a’u gwella.
content
Mae preswylwyr Glan Conwy wedi bod yn gofyn am lwybr di-draffig i Gonwy a Chyffordd Llandudno ers talwm, gyda’r cynlluniau cyntaf yn cael eu creu bron i ugain mlynedd yn ôl. Yn ein hymgynghoriad sirol ynghylch llwybrau newydd yn 2016, cafodd y syniad gefnogaeth bellach a’i gynnwys yng nghynllun cyfreithiol y Cyngor ar gyfer llwybrau newydd. Ac mae Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yn gyfle perffaith i gyflawni’r prosiect yma o’r diwedd.
content
Yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus yn 2023, dywedodd 63% o’r ymatebwyr y byddan nhw’n defnyddio’r llwybr o leiaf unwaith yr wythnos.
Dywedodd yr ymatebwyr nad ydyn nhw’n cerdded, beicio neu’n olwyno rhwng Glan Conwy a Chyffordd Llandudno oherwydd nad ydyn nhw’n teimlo’n saff efo’r holl draffig.
content
Bydd y llwybr newydd yn oddeutu 2km (1 ¼ milltir). Bydd y llwybr yn mynd y tu ôl i faes parcio’r RSPB, ochr yn ochr â’r ganolfan ymwelwyr ac i’r dwyrain i gyfeiriad y rheilffordd. Bydd yn troi tua’r de ac yn mynd ar hyd ymyl y warchodfa yn baralel â’r rheilffordd at Afon Ganol. Bydd pont wedyn i groesi Afon Ganol a ramp hir at bont a fydd yn mynd dros y rheilffordd. Bydd y llwybr yn gorffen wrth ymyl cilfan ‘Green Seat’ ar yr A470, 300 metr i’r gogledd o ganolfan arddio Snowdonia Nurseries yng Nglan Conwy.
content
Bydd y llwybr newydd yn cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru ar hyd yr aber tuag at Gonwy, gan groesi’r rheilffordd i’r cob a thref Conwy. Yma, fe allwch chi ymuno â llwybr teithio llesol Gorllewin Conwy, sy’n mynd trwy Fodlondeb tuag at Ysgol Aberconwy a Morfa Conwy.
I fynd i Gyffordd Llandudno a Deganwy, mae’r llwybr yn cysylltu â’r gwelliannau teithio llesol ger cylchfan cyffordd 18 yr A55, sy’n mynd â chi ar yr A546 Ffordd Conwy.
content
Bydd y llwybr newydd yn o leiaf 3 metr o led gydag arwyneb tarmac a lleiniau bob ochr. Bydd bolardiau golau hefyd yn cael eu gosod ar ochr y llwybr bob 11 metr. Mi fydd yna ffens rwyllau gyda physt pren ar hyd y llwybr cyfan, gan ei wahanu oddi wrth Warchodfa Natur yr RSPB.
content
Mae’r llwybr wedi’i ddylunio i osgoi nodweddion ecolegol sensitif.
Bydd goruchwyliwr ecoleg yn goruchwylio’r gwaith er mwyn diogelu bywyd gwyllt. Cyn unrhyw waith ar goed, bydd y coed yn cael eu gwirio gan unigolyn cymwys.
Fe wnaethom ni ychydig o waith i glirio’r llystyfiant ddiwedd mis Chwefror, cyn y tymor nythu. Rhwng mis Mawrth a mis Medi, dim ond mân waith fydd yn cael ei wneud a hynny draw o fannau sensitif, er mwyn osgoi tarfu ar yr adar yn y warchodfa.
content
Bydd. Bydd yn rhaid i ni dorri rhai coed a glasbrennau i greu’r llwybr. Fel rhan o’r cynlluniau byddwn yn plannu coed brodorol newydd yn eu lle ar y safle a’r tu allan.
content
Dylunnir llwybrau teithio llesol ar gyfer teithiau beunyddiol y byddai pobl yn defnyddio cludiant modur ar eu cyfer fel arall. Er bod modd defnyddio llwybrau teithio llesol ar gyfer hamdden, eu prif ddiben ydi rhoi ffordd i bobl gyrraedd eu gwaith, sefydliadau addysg, gwasanaethau a chyfleusterau.
Yn ôl canllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, dydi marchogaeth ddim yn cyfrif fel teithio llesol oherwydd ei fod yn weithgaredd hamdden yn bennaf.
content
Dydi Park Run Conwy ddim yn cael ei gynnal tra bod y gwaith rhwng pont reilffordd Conwy a maes parcio’r RSPB yn cael ei wneud, ond rydym ni’n gobeithio y bydd y gwaith hwnnw wedi’i orffen fis Mehefin. Mae yna ddigwyddiadau Park Run eraill yng Nghastell Penrhyn, Coedwig Niwbwrch, Llangefni, Penrhyn a’r Rhyl. Mae gan y sir hefyd bromenadau hir sy’n addas ar gyfer rhedeg – yn Llandudno, Llandrillo-yn-Rhos a Bae Colwyn.
content
Ein prif gontractwr ydi Jennings Building and Civil Engineering Ltd o Fae Colwyn.
content
Bydd, er mwyn gwneud y llwybr yn fwy diogel, yn enwedig yn y gaeaf. Mae’r cynlluniau’n cynnwys bolardiau golau ar hyd y llwybr a chanllawiau wedi’u goleuo ar y ramp a’r pontydd. Byddwn yn defnyddio goleuadau sydd wedi’u cymeradwyo gan y Gymdeithas Awyr Dywyll. Bydd y bolardiau yn sensitif i symudiadau ac yn cael eu gosod gyda gorchudd arbennig fel bod y goleuni yn cael ei daflu ar y llwybr yn unig, a bydd y golau ar y canllawiau yn wynebu ar i lawr. Bydd y golau yn oren er mwyn lleihau llygredd golau, ac mae hefyd yn well i fywyd gwyllt.
content
Rydym ni wedi cael trafodaethau hir gyda’r tirfeddiannwr a budd-ddeiliaid eraill er mwyn cytuno ar y llwybr cyd-ddefnyddio hwn. Y llwybr terfynol ydi’r unig ddewis yr oedd pawb yn cytuno arno.
content
Mae’r daith ymlaen o ddiwedd y llwybr hwn i’r pentref ei hun yn dilyn yr A470. Gan ei bod yn gefnffordd cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru ydi hi, a chaiff ei rheoli gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru.
Mae’r Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar sut i ddarparu cam nesaf y llwybr o’r gilfan i Bendraw’r Llan er mwyn cysylltu â’r llwybr cyd-ddefnyddio presennol drwy’r pentref.
content
Ydym. Rydym ni wedi cynnal dau ymgynghoriad cyhoeddus, un ym mis Chwefror 2023 ac un ym mis Awst 2024. Roedd modd cymryd rhan yn yr ymgynghoriadau hyn ar-lein ar ein gwefan, drwy’r post ac mewn digwyddiadau cyhoeddus.
Gallwch ddarllen am yr ymgynghoriadau cyhoeddus yma:
content
Os gallwn wneud y gwaith mewn dau gam, rydym ni’n rhagweld y bydd y llwybr teithio llesol newydd yn barod yn ystod haf 2026.