Beth yw’r problemau?
- Mae Pont y Soldiwr wedi bod ynghau er tro ar sail diogelwch – mae angen gosod estyll pren, estyll cynnal, prif geblau crog a thyrau newydd.
- Yr oedd yn anodd i sgwteri symudedd, defnyddwyr cadeiriau olwyn a phramiau ddefnyddio’r bont.
- Nid yw’r llwybr presennol sy’n cysylltu Ffordd Hen Eglwys â’r A470 dros y bont yn cyrraedd y safon ar gyfer teithio llesol ac mae rhai rhannau’n serth iawn ac yn anodd i bob defnyddiwr.
Ynglŷn â'r prosiect
- Yr ydym yn adeiladu pont newydd, sydd wedi ei dylunio i fod yn debyg i’r hen un. Pont grog fydd hon â dau o dyrrau a bydd yn 50 metr o led. Fe’i dyluniwyd yn unol â’r safonau diweddaraf a bydd yn hygyrch i bawb, yn ddigon llydan i gerddwyr, beicwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn, pramiau a sgwteri symudedd.
- Llwybr gwell ar gyfer cerdded, beicio a theithio ar olwynion rhwng Betws y Coed a Rhyd y Creuau.
- Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys gwella’r llwybrau y naill ochr i’r bont ar Ffordd Hen Eglwys a’r A470. Rydym yn gweithio â Llywodraeth Cymru i ledu’r llwybr wrth ymyl yr A470 ac ychwanegu cwrb. Bydd y llwybr llydan, newydd yn mynd am 800m o’r man lle mae llwybr y bont yn cyrraedd yr A470 hyd ganolfan astudiaethau maes Rhyd y Creuau.
Rhaglen
- Ebrill 2025: Fe fuom wrthi’n paratoi Ffordd Hen Eglwys, yn dargyfeirio carthffosydd, gwifrau trydan a phibellau dŵr
- Diwedd Mai 2025: dechrau datgymalu’r hen bont
- Mai tan Mehefin 2025: dechrau gwaith ar y llwybr ger yr A470 o’r bont hyd Rhyd y Creuau
- Mehefin tan Medi 2025: adeiladu pentan/maen angori ar ben gorllewinol y bont newydd (Ffordd Hen Eglwys)
- Medi 2025 tan Chwefror 2026: dal i weithio ar y llwybr ar yr A470 hyd Rhyd y Creuau
- Ebrill tan Mehefin 2026: adeiladu’r bont
Chawn ni ddim gweithio yn yr afon rhwng mis Hydref a mis Mawrth oherwydd y rheolau sy’n gwarchod pysgod yn silio
Delweddau
Cyllid
Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n talu am ddylunio ac adeiladu’r bont ac mae Llywodraeth Cymru’n darparu cyllid o’r gronfa Teithio Llesol ar gyfer y gwaith ar yr A470.
Cyfanswm cost y prosiect yw £7 miliwn.

Llwybr ymlaen
Yr ydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar gynllunio’r llwybr ymlaen i Lanrwst. Byddwn yn ymgynghori â’r cyhoedd ynglŷn â hyn pan fydd y dyluniadau drafft wedi eu cwblhau.
Yr ydym hefyd yn edrych ar ddewisiadau strategol ar gyfer y llwybr teithio llesol o’r Môr i’r Mynydd o Gyffordd Llandudno i Fetws-y-coed, sy’n brosiect tymor hwy.
Cwestiynau ac atebion
content
Bu’n rhaid cau’r hen bont am ei bod yn beryglus, oherwydd cyflwr y dec, y crograffau a’r tyrrau. Bydd ein contractwr yn datgymalu’r hen bont yn ofalus. Rydym yn barod i wrando ar awgrymiadau am ffyrdd posib o ddefnyddio rhannau o’r hen bont.
content
Dyluniwyd y bont newydd yn debyg i’r hen un. Pont grog fydd hon â dau o dyrrau a bydd yn 50 metr o led. Fe’i dyluniwyd yn unol â’r safonau diweddaraf a bydd yn hygyrch i bawb, yn ddigon llydan i gerddwyr, beicwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn, pramiau a sgwteri symudedd.
content
Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys gwella’r llwybrau’r naill ochr i’r bont ar Ffordd Hen Eglwys a’r A470. Rydym yn gweithio â Llywodraeth Cymru i ledu’r llwybr wrth ymyl yr A470. Bydd y llwybr llydan, newydd yn mynd o’r bont hyd ganolfan astudiaethau maes Rhyd y Creuau.
content
Dylunnir llwybrau teithio llesol ar gyfer teithiau beunyddiol y byddai pobl yn defnyddio cludiant modur ar eu cyfer fel arall. Er bod modd defnyddio llwybrau teithio llesol ar gyfer hamdden, eu prif ddiben yw rhoi ffordd i bobl gyrraedd eu gwaith, sefydliadau addysg, gwasanaethau a chyfleusterau.
Yn ôl canllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, nid yw marchogaeth yn cyfrif fel teithio llesol. Y rheswm am hynny yw bod marchogaeth yn weithgaredd hamdden yn bennaf.
content
Mae’n rhaid inni symud rhan o wal mynwent Erw Hedd er mwyn cloddio i osod y sylfeini ar gyfer y bont newydd a’r llwybr. Byddwn yn ail-adeiladu’r wal yn ystod y gwaith.
content
Efallai y bydd yn rhaid inni ddymchwel wal yr eglwys dros dro wrth gloddio i osod sylfeini’r bont newydd. Byddwn yn ail-adeiladu’r wal yn ystod y gwaith.
Bydd yr eglwys ar agor ar gyfer dydd Gŵyl Sant Mihangel ar 29 Medi. Bwriadwn gwblhau’r holl waith angenrheidiol mewn da bryd cyn hynny.
content
Rydym wedi ceisio peidio ag amharu gormod ar Ffordd Hen Eglwys ond mae hwn yn brosiect mawr ac felly bydd angen cau’r ffordd o bryd i’w gilydd. Mae’n ddrwg gennym am unrhyw drafferth oherwydd hynny.
Lle bo modd, mae ein contractwyr yn defnyddio goleuadau traffig yn ystod y dydd a dim ond yn cau’r ffordd yn y nos.
Bydd goleuadau traffig ar y ffordd dros y Pasg a gwyliau’r haf. Byddwn yn cau rhannau o’r ffordd rhwng mis Mehefin a mis Medi. Mae’n rhaid gwneud hynny er mwyn adeiladu sylfeini’r bont newydd.
Disgwyliwn y bydd y gwaith ger y ffordd wedi’i gwblhau erbyn mis Hydref 2025.
Cadwch olwg ar yr arwyddion i gael gwybod pa rannau o’r ffordd yn union a fydd ar gau.
content
Ydym. Fe gynhaliom ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Tachwedd 2023 ynglŷn â thri o ddyluniadau posib ar gyfer y bont. Gallai pobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar ein gwefan, drwy’r post ac mewn digwyddiadau cyhoeddus.
Darllenwch am yr ymgynghoriad cyhoeddus.
content
Ni fydd yn rhaid inni gau’r ffordd er mwyn gweithio ar y llwybr ger yr A470, ond bydd yno oleuadau traffig. Bydd staff yn rheoli’r traffig ar adegau prysur ac ni fydd unrhyw oleuadau traffig yn ystod gwyliau banc.
content
Disgwyliwn i’r bont a’r llwybr fod yn barod erbyn mis Medi 2026.
content
Rydym yn gweithio â Llywodraeth Cymru wrth gynllunio’r llwybr ymlaen i Lanrwst. Byddwn yn ymgynghori â’r cyhoedd ynglŷn â hynny ar ôl gorffen drafftio’r dyluniadau posib.