Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Mwy na Geiriau


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 2025:
    • Coed Pella, Bae Colwyn:
      • 11 Gorffennaf, 10am tan 12pm
      • 22 Hydref, 10am tan 12pm
      • 5 Tachwedd, 2 tan 4pm
    • Ar-lein trwy Zoom:
      • 11 Mehefin, 10am tan 12pm
      • 17 Medi, 2 tan 4pm
  • 2026:
    • Coed Pella, Bae Colwyn:
      • 25 Chwefror, 10am tan 12pm
      • 4 Mawrth, 2pm tan 4pm
    • Ar-lein trwy Zoom:
      • 28 Ionawr, 10am tan 12pm

Mae hyfforddiant mewnol ar gael hefyd. Cysylltwch â sc.training@conwy.gov.uk am wybodaeth.

Manylion y cwrs

  • Gwasanaethau targed: Pob gwasanaeth
  • Grŵp targed: Pob aelod o staff sydd angen meithrin gwell dealltwriaeth o'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cymdeithasol a gwybod sut i gydymffurfio â'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

Nodau ac amcanion y cwrs

Nod yr hyfforddiant yw nodi pwysigrwydd fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg mewn Gofal Cymdeithasol mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant:   

  • Pam bod angen i chi ddatblygu’r gwasanaethau sydd ar gael i ddefnyddwyr gwasanaeth cyfrwng Cymraeg
  • Beth sydd angen i chi ei wybod am y fframwaith strategol olynol a sut allwch chi sicrhau eich bod chi'n cydymffurfio â Safonau'r Iaith Gymraeg
  • Sut allwch chi gynllunio gwasanaethau gyda’r bwriad o weithredu egwyddorion y Cynnig Gweithredol
  • Datblygu’r pethau yr ydym ni eisoes yn eu gwneud yn dda. 

Cynnwys y cwrs

  • Cyflwyniad i ‘Mwy na Geiriau - More than just words’
  • Fframwaith ar gyfer gwasanaethau Cymraeg ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol
  • Polisi Cyhoeddus a Deddfwriaeth - Safonau'r Iaith Gymraeg a’r hyn y maent yn ei olygu i'n sefydliadau
  • Angen Iaith a’r cynnig gweithredol – Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
  • Profiadau defnyddwyr gwasanaethau
  • Arwain a Gweithredu Newid
  • Iaith ac iechyd meddwl
  • Iaith, diwylliant a dementia
  • Cyfnewid arferion da

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch ag ymuno ag unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

 

end content