Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cwrs Cyfweld Ysgogol Deuddydd


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 2025: 11 & 12 Medi

Manylion y cwrs

  • Amser: 9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru9.30am - 16.30pm
  • Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
  • Hyfforddwr: Barbara Lyons - Shadow Play Counselling
  • Gwasanaethau targed: Busnes a Thrawsnewid, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty, Lles Cymunedol, Safonau Ansawdd, Tîm Anableddau, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Cefnogi Teuluoedd ac Ymyrraeth, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Plant sy'n Derbyn Gofal
  • Grŵp targed: Unigolion â chyswllt uniongyrchol â chleientiaid

Nodau ac amcanion y cwrs

Amlinelliad o’r Cwrs:

Sut i siarad efo pobl am faterion ‘ymddygiad problemus’! Gallwn gynyddu neu leihau ysgogiad pobl.

Mae Cyfweld Ysgogol yn ddull cyfathrebu strwythuredig sy’n helpu pobl i gydnabod eu problemau a gwneud rhywbeth yn eu cylch. Mae’n ddefnyddiol iawn pan fo gan bobl deimladau cymysg neu ddeuoliaeth teimlad ynghylch gwneud newidiadau.

Mae Cyfweld Ysgogol yn deillio o faes camddefnyddio sylweddol ond mae’n cael ei ddefnyddio’n helaeth mewn meysydd gwaith cymdeithasol eraill erbyn hyn, o gadw at feddyginiaeth i ddulliau rhianta a mynd i’r afael ag iselder.

Bydd y cwrs deuddydd hwn yn gyfle i chi ddysgu’r theori ac ymarfer eich sgiliau.

Bydd cyfranogwyr yn

  • Deall ysbryd ac ethos Cyfweld Ysgogol
  • Cofio’u sgiliau gwrando
  • Dysgu sut i ysgogi a myfyrio ynghylch ‘siarad newid’
  • Dysgu sut i ddelio gyda gwrthwynebiad
  • Ystyried amseriad a pharodrwydd wrth ddatblygu cynlluniau newydd
  • Deall pwysigrwydd gwella gobeithion a hyder yng ngallu eich cleientiaid i newid

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd, cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.  Peidiwch â mynd i unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content