Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hyfforddiant Dehonglydd Dementia


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 2025:
    • Cyrsiau y bore, 10am tan 1pm (9:45am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru):
      • 4 Mehefin
      • 17 Medi
      • 6 Tachwedd
    • Cyrsiau y prynhawn, 1:30pm tan 4:30pm (1:15pm cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru):
      • 4 Mehefin
      • 17 Medi
      • 6 Tachwedd

Manylion y cwrs

  • Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn Bay
  • Gwasanaethau targed: Busnes a Thrawsnewid, Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwasanaethau a Gomisiynir, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty, Safonau Ansawdd, Y Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Gofalwyr Maeth.
  • Grŵp targed: Y rhai sy'n gweithio ym maes dementia

Nodau ac amcanion y cwrs

Y cwrs Dehonglwyr Dementia trwy brofiad yw’r genhedlaeth nesaf o hyfforddiant sy’n benodol i bobl sydd â dementia. 

Un o’r agweddau mwyaf allweddol ar gefnogi pobl â dementia yw gallu adnabod a deall y newidiadau mewn cyfathrebu a fydd yn anochel yn digwydd ar eu siwrnai bersonol o ddementia.

Mae’r cwrs dehonglydd dementia yn dangos yr effaith ar gyfathrebu a’r angen i staff ddechrau deall a chyfieithu iaith dementia.

Mae’r cwrs wedi ei ddylunio i alluogi unigolion i gyfathrebu’n fwy effeithiol gyda’r rhai sydd â dementia.  I adnabod fod ymddygiad yn aml yn ffordd o gyfathrebu sydd angen ei gyfieithu i wella ansawdd bywyd pobl sydd â’r clefyd hwn. 

Rhan o’r cwrs yw hyfforddiant trwy brofiad gan ddefnyddio offer arbennig a fydd yn gostwng eich gallu yn raddol i gyfathrebu’n effeithiol.

Felly byddwch yn cael profiad o’r rhwystrau cyfathrebu ar amrywiol lefelau, gan eich rhoi yn esgidiau rhywun sydd â dementia.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.

Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content