Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Dementia - Symud a Chynorthwyo Pobl â Dementia


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 2025:
    • Cyrsiau y bore, 10am tan 1pm (9:45am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru):
      • 17 Mehefin
      • 19 Medi
      • 25 Medi
    • Cyrsiau y prynhawn, 1:30pm tan 4:30pm (1:15pm cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru):
      • 17 Mehefin
      • 19 Medi
      • 25 Medi

Manylion y cwrs

  • Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
  • Hyfforddwr: Training 2 Care
  • Gwasanaethau targed: Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Gwasanaethau a Gomisiynir (PIVs), Tîm Pobl Ddiamddiffyn.
  • Grŵp targed: Byddai’n rhaid i fynychwyr weithio mewn tîm lle mae dysgu am Ddementia’n bwysig i’w swydd.

Nodau ac amcanion y cwrs

Mae’r cwrs hwn ar gyfer pob aelod o staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cefnogi pobl sy’n byw â dementia.  Yn ystod y cwrs, bydd cynrychiolwyr yn cael sawl darn o offer arbenigol i’w wisgo a fydd yn dangos sut efallai y byddai’n teimlo i unigolyn sy’n byw â dementia. Byddant wedyn yn cael cymorth i symud yn defnyddio ystod o offer a thechnegau gwahanol.

Bydd y cwrs yn hyrwyddo urddas a pharch i bobl sy’n byw â dementia. Bydd hefyd yn codi ymwybyddiaeth o rwystrau cyfathrebu y gallai unigolyn â dementia eu profi, megis affasia.

Ar ddiwedd y sesiwn, bydd asesiad ysgrifenedig byr er mwyn i fynychwyr ddangos tystiolaeth o’r hyn maent wedi’i ddysgu.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Dysgu a Datblygu’r Gweithlu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content