Dyddiadau
Manylion y cwrs
Amser: 9.30am - 16.00pm (9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru)
Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
Hyfforddwr: Talking Life
Gwasanaethau Targed: Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Tîm Pobl Hŷn, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Gwasanaethau wedi'u Comisiynu
Grŵp Targed: Unigolion sy'n cefnogi pobl gyda dementia
Nodau ac amcanion y cwrs
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd y cyfranogwyr yn gallu:
- Egluro beth yw dementia a’i effaith ar unigolion gydag anableddau dysgu, yn cynnwys symptomau cynnar a chynyddol
- Adnabod yr heriau unigryw wrth roi diagnosis a chefnogi unigolion gydag anableddau dysgu a dementia
- Rhoi strategaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar waith i wella lles, cyfathrebu a gofal dyddiol
- Defnyddio cyfarpar ymarferol ac ymyraethau fel cymorthyddion cof, addasiadau synhwyraidd a thechnegau cefnogi ymddygiad
- Datblygu cynlluniau gofal unigol ac ymrwymo i gymryd camau gweithredu ystyrlon i wella’r gefnogaeth ar gyfer dementia
Sesiwn 1: Cyflwyniad i Ddementia
- Diffiniad a Mathau o Ddementia – Deall clefyd Alzheimer, dementia fasgiwlar a sut mae dementia yn ymddangos yn wahanol i bobl gydag anableddau dysgu
- Yr effaith ar yr ymennydd ac ymddygiad – Sut mae newidiadau niwrolegol yn effeithio ar y cof, y gallu i resymu a gweithredu dyddiol
- Symptomau Cynnar a Hwyr – Adnabod newidiadau gwybyddol bach mewn unigolion gydag anableddau dysgu
- Gweithgaredd Trafod – Staff i rannu profiadau personol o ddementia mewn lleoliadau gofal
Sesiwn 2: Dementia ac Anableddau Dysgu – Pwyntiau Allweddol
- Pam bod y risg yn uwch? Archwilio syndrom Down a ffactorau eraill sy’n gysylltiedig ag anableddau dysgu
- Heriau wrth gael diagnosis – Camddehongli symptomau a sut i wahaniaethu cynnydd dementia
- Cefnogi Lles Emosiynol – Rheoli trallod, newid mewn ymddygiad ac addasu cyfathrebu
Sesiwn 3: Strategaethau Ymarferol a Chyfarpar
- Dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn – Teilwra gweithgareddau a’r amgylchedd i wella ansawdd bywyd
- Cyfarpar ar gyfer cefnogaeth wybyddol – cymorthyddion cof, amserlenni gweledol, ymyraethau synhwyraidd
- Technegau Cyfathrebu – Strategaethau dieiriau, therapi dilysu, addasu rhyngweithio dyddiol
Sesiwn 4: Adolygu a Chynllun Gweithredu
- Myfyrio – Staff i drafod dysg allweddol a dealltwriaeth bersonol
- Datblygu Cynlluniau Gofal – Nodi addasiadau ar gyfer anghenion cefnogi unigol
- Ymrwymo i Newid – Staff i bennu nodau ar gyfer gweithredu strategaethau yn eu gweithleoedd
- Sesiwn Holi ac Ateb ac Adborth – Sicrhau bod yr holl bryderon ac ansicrwydd yn cael sylw